Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
banner
aledhughes.bsky.social
Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
@aledhughes.bsky.social
Yfwr te heb ei ail
Wrth i’r blaned, Prydain a Chymru boethi - poethi hefyd fydd y sgwrs am gael dŵr i bob rhan o’r ynys yma. Un o’r adnoddau naturiol mwyaf sydd ganddo ni, ond fawr ddim dweud na hawliau am ei werth na’i ddosbarthiad i lefydd eraill.Hen sgwrs yn wyneb her amgylcheddol anferth #dŵr #cymru #wales #water
September 30, 2025 at 5:24 PM
Diolch o galon @mikeparker.bsky.social for taking me on this beautiful journey, it’s a wonderful eye-opener.

Cymreictod is so many individual things to so many people, yet in this complicated relationship with ‘the border’ you make it make sense.

Ewch i ddarllen - such a brilliant read.
September 2, 2025 at 4:14 PM
Rywun wedi darllen neu gwylio The Salt Path? Y fersiwn yma, o safbwynt cymuned wledig yng Nghymru, yn wahanol iawn iawn.
The Salt Path lies: how a blockbuster book and film were spun from lies, deceit and desperation
YouTube video by The Observer UK
youtu.be
July 6, 2025 at 9:38 AM
Reposted by Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Wedi neud fy 'debut' radio! Diolch i @aledhughes.bsky.social a thîm BBC Radio Cymru am y cyfle i siarad am hanes 'Côr Coll' Eisteddfod Bangor 1915 a seremoni bwysig arall gymerodd lle ar yr un diwrnod a seremoni cadeirio'r 'Gadair Ddu' yn Eisteddfod Penbedw 1917. Mwy yn rhifyn 8 o Hanes Byw!
June 16, 2025 at 11:38 AM
Reposted by Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Braf iawn i gael y cyfle i siarad ar raglen @aledhughes.bsky.social ar Radio Cymru am hanes David Rees Thomas yn gwasanaethu gyda'r 3rd Welsh Field Ambulance yn y Rhyfel Mawr - dyma'r adroddiadau yn y papurau newydd am rai o'r dynion yr oedd wedi gofalu amdanynt
May 21, 2025 at 9:43 AM
Reposted by Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Bu Jon Gower yn sgwrsio gydag @aledhughes.bsky.social ar Radio Cymru am ei gyfrol newydd, ‘Raider’, sy'n edrych ar hanes y chwaraewr pêl-droed Americanaidd Raymond Chester.

I glywed y sgwrs, ewch at (36:13): tinyurl.com/y3mrwa5t

Cyhoeddir ‘Raider: The Raymond Chester Story’ ddiwedd y mis!
March 13, 2025 at 1:03 PM
Rygbi Cymru mewn lle gwael. Hawdd i’r garfan fod a’u pen yn eu plu. Hawdd fyddai darllen yr holl erthyglau negyddol a thorri calon. Ond yn 25 oed, *25* yn unig….mae Jac Morgan yn ysgwyddo baich anferth a’n chwarae fel cawr. Esiampl i bawb. Anhygoel. Cymro i’r carn, llawn balchder.

#SCOvWAL #ALBvCYM
March 8, 2025 at 6:58 PM
“Fflat Huw Puw yn hwwwwwwylio heno…….” yr hen Huw yn cael ei gysylltu efo Porthdinllaen am resymau amlwg. Ond mae hanes ei fflat a’i hanes ei hun yn mynd i sawl cyfeiriad….gan gynnwys Ynys Môn. Mwy o stwff fel hyn, fan hyn ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿:

www.ecoamgueddfa.org/flogs-llwybr...

#hanes #cymru
March 8, 2025 at 9:34 AM
Dwi’n cyflwyno podlediad i siaradwyr newydd bob mis. Pennod mis Chwefror fan hyn ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

#cymru #cymraeg #dysgu
Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr, Mawrth 4ydd, 2025 - BBC Sounds
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
www.bbc.co.uk
March 4, 2025 at 5:29 PM
📍Ogof Llywelyn, Aberedw. Fan hyn, yn ôl y chwedl, y treuliodd Llywelyn Ein Llyw Olaf ei noson olaf ar y ddaear
March 2, 2025 at 12:35 PM
Reposted by Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Pwy wnaeth yr sêr uwchben? ✨

You can listen back on BBC sounds to the chat @aledhughes.bsky.social and I had this week ahead of Welsh Dark Skies Week and celebrating Eryri’s 10th anniversary of being an International Dark Sky Reserve 🤩

www.bbc.co.uk/sounds/play/...
February 14, 2025 at 9:24 PM
Reposted by Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Dathlu yr Gwarchodfa Awyr Dywyll Eryri yn 10 per flywyddyn yma efo Aled ar Radio Cymru bore ma 🥳

Celebrating Eryri Dark Sky Reserve being 10 years old this year with Aled on Radio Cymru this morning 🥳
Dathlu Prosiect Nos yn 10 oed efo @danidarkskies.bsky.social ar Radio Cymru bore fory ⭐️🌟✨
February 12, 2025 at 8:33 AM
Dathlu Prosiect Nos yn 10 oed efo @danidarkskies.bsky.social ar Radio Cymru bore fory ⭐️🌟✨
February 11, 2025 at 7:16 PM
Ar lwybr mynydd yn Llanllechid……nes i gyfarfod Parker o Wyoming 🤷‍♂️

#cymraeg #cymru #dysgu
Dysgu Cymraeg mewn 15 mis diolch i bobl Llanrwst
Parker Morgan o Wyomig sydd wedi dysgu Cymraeg diolch i bobl Llanrwst a llyfrau.
www.bbc.com
February 11, 2025 at 3:08 PM
📍Moel Siabod
January 25, 2025 at 1:57 PM
‘Gwir fab o Gymru’ ydi’r geiriau ar ei fedd ym Merthyr.

Mi oedd o am focsio dan ei enw yn Gymraeg - Sion Rhisiart Owen - ond mi gafodd ei berswadio i beidio, fyddai hynny ‘ddim yn dderbyniol yn wleidyddol’ gan y byd bocsio mae’n debyg.

Bron yn rhy fain i gael cysgod - ond dwrn fel gordd ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Legends of Welsh Sport - Series 4: Johnny Owen - The Matchstick Man
Johnny Owen was the fighting pride of Wales, but his life was tragically cut short. Four decades on from his untimely death, the Merthyr Matchstick remains a boxing legend.
www.bbc.co.uk
January 23, 2025 at 4:04 PM
Rhifyn mis Rhagfyr Pigion. Podlediad i helpu siaradwyr newydd.

If you’re learning Cymraeg - this podcast I present could help ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

#cymraeg #dysgu #cymru #welsh
Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr, Ionawr 7fed, 2025 - BBC Sounds
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
www.bbc.co.uk
January 7, 2025 at 6:22 PM
Tu hwnt o lwcus #eryri #yrwyddfa
❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
January 4, 2025 at 5:45 PM
Bwgan y mynydd #brockenspectre o Glyder Fach a Chastell y Gwynt ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
December 28, 2024 at 4:20 PM
🎄Nadolig Llawen🎄

Yn fyw tu ôl y meic rhwng 0800-1100 ar Radio Cymru yfory.

Cyfarchion/helo/cais am gân/Nadolig Llawen neu os am ofyn am unrhyw gyngor coginio 🫣 - cysylltwch:

☎️03703 500 500
📲67500 neu 03703 500 500
💻aled@bbc.co.uk
December 24, 2024 at 2:25 PM
Cilmeri 11.12.1282 #aydh

The last Tywysog Cymru was killed at Cilmeri #OnThisDay in 1282 #OTD
December 11, 2024 at 6:28 AM
Un o’r pethau gorau gawso ni leni oedd albym newydd Cowbois.

Un o’r pethau eraill oedd y fideo tlws uffernol yma i Magl. 3 munud 36 eiliad perffaith. Arbennig.
Cowbois Rhos Botwnnog - Magl
YouTube video by Lwp
youtu.be
December 5, 2024 at 3:20 PM
Podlediad Pigion mis Tachwedd yma!

Y syniad ydi helpu siaradwyr newydd

❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

#cymraeg #iaith #siaradwyrnewydd #dysgu #cymru
Y Podlediad Dysgu Cymraeg - Podlediad Pigion y Dysgwyr, Rhagfyr 5ed, 2024 - BBC Sounds
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.
www.bbc.co.uk
December 5, 2024 at 2:13 PM
Braint bob tro cael bod yn rhan o siwrne siaradwyr newydd #cymraeg #dysgu #cymru
Mae Radio Cymru wedi bod mor bwysig i fi ar y daith dysgu Cymraeg, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. Llais Cymraeg cyson ar adegau pan nad oedd siaradwyr Cymraeg o fy nghwmpas. @aledhughes.bsky.social @tudur.bsky.social @rhysmwyn.bsky.social
December 5, 2024 at 10:20 AM
Reposted by Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Fydda i ar Radio Cymru ar raglen @aledhughes.bsky.social cyn 10am yn siarad am fy nofelau, arswyd cosmig a chwedloniaeth Cymraeg.
December 4, 2024 at 9:27 AM