Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
banner
aledhughes.bsky.social
Aled Hughes 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
@aledhughes.bsky.social
Yfwr te heb ei ail
Wrth i’r blaned, Prydain a Chymru boethi - poethi hefyd fydd y sgwrs am gael dŵr i bob rhan o’r ynys yma. Un o’r adnoddau naturiol mwyaf sydd ganddo ni, ond fawr ddim dweud na hawliau am ei werth na’i ddosbarthiad i lefydd eraill.Hen sgwrs yn wyneb her amgylcheddol anferth #dŵr #cymru #wales #water
September 30, 2025 at 5:24 PM
….and this.

Another Welsh journey and one that will stay with me for a long time.

Mae’r byd yn newid a’n poethi, ond mae’r llyfr yma yn ail-gysylltu rhywun efo rhai o’n hen werthoedd, er efallai ei bod hi’n rhy hwyr 🙁.

Diolch Tom
September 2, 2025 at 4:18 PM
Diolch o galon @mikeparker.bsky.social for taking me on this beautiful journey, it’s a wonderful eye-opener.

Cymreictod is so many individual things to so many people, yet in this complicated relationship with ‘the border’ you make it make sense.

Ewch i ddarllen - such a brilliant read.
September 2, 2025 at 4:14 PM
“Fflat Huw Puw yn hwwwwwwylio heno…….” yr hen Huw yn cael ei gysylltu efo Porthdinllaen am resymau amlwg. Ond mae hanes ei fflat a’i hanes ei hun yn mynd i sawl cyfeiriad….gan gynnwys Ynys Môn. Mwy o stwff fel hyn, fan hyn ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿:

www.ecoamgueddfa.org/flogs-llwybr...

#hanes #cymru
March 8, 2025 at 9:34 AM
📍Ogof Llywelyn, Aberedw. Fan hyn, yn ôl y chwedl, y treuliodd Llywelyn Ein Llyw Olaf ei noson olaf ar y ddaear
March 2, 2025 at 12:35 PM
Dathlu Prosiect Nos yn 10 oed efo @danidarkskies.bsky.social ar Radio Cymru bore fory ⭐️🌟✨
February 11, 2025 at 7:16 PM
📍Moel Siabod
January 25, 2025 at 1:57 PM
Tu hwnt o lwcus #eryri #yrwyddfa
❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
January 4, 2025 at 5:45 PM
Bwgan y mynydd #brockenspectre o Glyder Fach a Chastell y Gwynt ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
December 28, 2024 at 4:20 PM
🎄Nadolig Llawen🎄

Yn fyw tu ôl y meic rhwng 0800-1100 ar Radio Cymru yfory.

Cyfarchion/helo/cais am gân/Nadolig Llawen neu os am ofyn am unrhyw gyngor coginio 🫣 - cysylltwch:

☎️03703 500 500
📲67500 neu 03703 500 500
💻aled@bbc.co.uk
December 24, 2024 at 2:25 PM
Cilmeri 11.12.1282 #aydh

The last Tywysog Cymru was killed at Cilmeri #OnThisDay in 1282 #OTD
December 11, 2024 at 6:28 AM
Lle arbennig ❤️
December 5, 2024 at 8:57 AM
Stori yn yr haul yn nhywyllwch y gaeaf.

Wedi cerdded Llwybr Arfordir Cymru o Drefor i Borthmadog nôl yn 2023. Straeon, hanesion a chwedlau’r môr fan hyn:

www.ecoamgueddfa.org/flogs-llwybr...

#cymru #hanes #arfordir ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
November 29, 2024 at 7:26 PM
Mi weithiodd Smyrff, tîm y rhaglen a finna yn galed am bob ceiniog gan y bobl garedig wnaeth ein cefnogi ni pob cam o’r ffordd. Ges i’r fraint o weld y byd ar ei orau yn ystod ail wythnos mis Tachwedd 2024. Fel criw y rhaglen, mi fyddwn ni’n ddiolchgar am byth. Diolch o waelod calon ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
November 27, 2024 at 10:40 AM
Wythnos ers i Her Plant Mewn Angen 2024 ddod i ben - cerdded Llwybr Pererin Gogledd Cymru (149.9 milltir) mewn 7 diwrnod. Ges i’r fraint o weld y da mewn pobl a chymunedau. Bythgofiadwy. Cyhoeddi faint o arian gafodd ei gasglu i’r elusen ar Radio Cymru dydd Llun ❤️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 #cymru #cymraeg
November 22, 2024 at 7:32 AM
Ddim yn siwr lle i ddecharu o’r newydd fan hyn, felly dyma lun o afr yn ardal Nant Gwrtheyrn. Diolch
November 21, 2024 at 5:45 PM