Senedd Cymru
banner
senedd.cymru
Senedd Cymru
@senedd.cymru
Lle mae lleisiau o bob cymuned yn cael eu cynrychioli i wneud penderfyniadau dros Gymru. Dy Lais. Dy Senedd. Ein Dyfodol 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 In English 👉 @senedd.wales
Gwnaeth yr Aelod Senedd newydd dros Gaerffili, Lindsay Whittle AS, ei gadarnhad yn Siambr Hywel heddiw.

Gallwch ddysgu mwy am yr Aelodau a dod o hyd i'r AS ar gyfer eich etholaeth yn:
https://bit.ly/3O8po4J
October 24, 2025 at 3:12 PM
Mae adroddiad gan y Senedd yn rhybuddio bod Cymru wedi cyrraedd croesffordd wrth i raniadau ddyfnhau.

Mae'n galw am gamau brys i feithrin ymddiriedaeth, ymdrin â chamwybodaeth a dod â chymunedau ynghyd. https://bit.ly/4pWrUgt
October 9, 2025 at 3:52 PM
Rhannwch eich barn!

Mae arolwg Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar rasio milgwn yng Nghymru bellach ar gael.

Dim ond cwpl o wythnosau sydd gennych i gymryd rhan, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud eich dweud: 👉 https://bit.ly/42rnLar
October 6, 2025 at 6:15 PM
Holl ddyddiadau allweddol etholiad y Senedd 2026, mewn un lle.

O ddiwrnod y bleidlais i’r cerrig milltir sy’n dilyn yr etholiad, cedwir y llinell amser hon yn gyfredol—y ffordd gyfleus ichi gael y diweddaraf. https://bit.ly/42hYLCu
October 1, 2025 at 3:50 PM
Mae’r Aelodau yn holi Llywodraeth Cymru ar yr economi, ynni, cynllunio, iechyd a gofal cymdeithasol heddiw.

Yn ddiweddarach, byddant yn trafod cynnig i gael Bil ar dipio anghyfreithlon a deiseb yn galw am osod briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau newydd.https://bit.ly/4mM62Bz
October 1, 2025 at 7:33 AM
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth.

Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
September 30, 2025 at 4:10 PM
Yr Aelodau yn holi’r Prif Weinidog yn FMQs heddiw.

Yn ddiweddarach, byddant yn clywed datganiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg a dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru.

Dyma bopeth sydd ar y gweill heddiw:https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=15365&Ver=4
September 30, 2025 at 7:00 AM
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd?

Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/cwis-senedd-cymru/
September 21, 2025 at 1:48 PM
Mae Aelodau o’r Senedd (ASau) wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau – 37 o blaid, 12 yn erbyn ac 1 yn ymatal.

Nawr bydd yn symud i gyfnod trafod manwl a newidiadau posibl cyn i’r Aelodau bleidleisio ynghylch a ddylai ddod yn gyfraith. https://bit.ly/3Vq5whB
September 19, 2025 at 4:02 PM
Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael y cydsyniad brenhinol a daw’n Ddeddf gan Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru.

Gallwch archwilio holl fanylion y Ddeddf ar ein gwefan. https://bit.ly/3UOdNeT
September 18, 2025 at 5:11 PM
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru.

Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith.

🔗 https://bit.ly/46pobjP
September 17, 2025 at 4:05 PM
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi galw am i ofal canolraddol yng Nghymru gael ei ddiwygio.

Mae'n dweud bod rhaid i leoliadau ar ôl yr ysbyty flaenoriaethu adferiad, annibyniaeth a mynediad at ofal arbenigol. https://bit.ly/3K8I0Df
September 16, 2025 at 4:14 PM
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi codi pryderon ynghylch cymorth i gleifion yng Nghymru sy'n gadael yr ysbyty.

Mae'n annog ailfeddwl ynghylch rhyddhau cleifion i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar ymadfer ac ar helpu pobl i fyw’n annibynnol eto. https://bit.ly/3K8I0Df
September 16, 2025 at 9:00 AM
Gallai Bil newydd ail-reoleiddio bysiau, ond yn ôl tystiolaeth mae angen llawer o fuddsoddi a chynllunio.

Mae Pwyllgor y Senedd yn cwestiynu costau ac yn amlygu diffyg manylion.

Fory, bydd y Senedd yn pleidleisio ar ei egwyddorion cyffredinol. https://bit.ly/3I6rWRY
September 15, 2025 at 9:00 AM
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth.

Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
September 12, 2025 at 9:00 AM
Gallai Bil newydd drawsnewid teithio â bysiau yng Nghymru.

Ond mae pwyllgor yn y Senedd yn pryderu bod diffyg manylder a chanllawiau clir yn y Bil – ac mae rhanddeiliaid yn cytuno ag ef.

Pleidleisir ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Medi. https://bit.ly/3I6rWRY
September 10, 2025 at 9:00 AM
Ar 7 Mai 2026, bydd Cymru’n pleidleisio ar y newidiadau mwyaf i’r Senedd mewn 25 mlynedd: 96 Aelod, 16 etholaeth newydd, un bleidlais yr un.

P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newid—a pham. https://bit.ly/40Ycmhx
September 8, 2025 at 9:00 AM
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd?

Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/cwis-senedd-cymru/
September 6, 2025 at 2:51 PM
Oeddech chi’n gwybod bod eich Senedd yn newid yn 2026?

✍️Y ffordd rydych chi'n ethol pwy sy’n eich cynrychioli

🗺️Sawl Aelodau sy'n eich cynrychioli

📅Pa mor aml y cynhelir etholiadau i ddewis pwy sy'n eich cynrychioli

Pob dim sydd angen i chi wybod ⬇️
https://bit.ly/4fU8kev
September 5, 2025 at 9:00 AM
Ydych chi erioed wedi clywed am D'Hondt?

O 2026 ymlaen, bydd y fformiwla hon yn siapio'r Senedd. Mae'n dyrannu seddi mewn rowndiau, gan gydbwyso pleidleisiau a chynrychiolaeth.

Dyma beth mae hyn yn ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru. https://bit.ly/421Qi5U
September 4, 2025 at 12:00 PM
Pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid y ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf.

Roedd y bleidlais yn 37 i 13.

Bydd y Bil yn caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno ffi fach am aros dros nos mewn llety ymwelwyr.

Gallwch weld y Bil llawn a'r hyn y mae'n ei olygu ar ein gwefan. https://bit.ly/4g5WwHV
September 2, 2025 at 9:00 AM
Y Llywodraeth a’r Senedd—yn aml yn cael eu drysu, ond ni allai eu rolau fod yn fwy gwahanol.

Beth am edrych yn fanylach ar yr hyn y mae’r ddau yn ei wneud. https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/beth-yw-r-gwahaniaeth-rhwng-llywodraeth-cymru-a-r-senedd/
September 1, 2025 at 10:00 AM
Ym mis Gorffennaf, pasiodd y Senedd gyfraith i wneud hen fwyngloddiau a chwareli yn fwy diogel.

Mae'n creu awdurdod newydd i asesu a rheoli'r safleoedd hyn, gan leihau risgiau o dirlithriad.

Gallwch weld y Bil llawn a'r hyn y mae'n ei olygu ar ein gwefan. https://bit.ly/3UOdNeT
August 30, 2025 at 2:57 PM
Mewn sesiwn ddiweddar o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, holodd yr Aelodau’r Prif Weinidog ynghylch darparu gwasanaethau iechyd hanfodol—ac a yw pobl Cymru yn gweld unrhyw newid gwirioneddol.

Beth gafodd ei ofyn? Darllenwch fwy am y sesiwn ar ein gwefan. https://bit.ly/4fQYL1E
August 29, 2025 at 3:52 PM
Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) wedi dod yn un o Ddeddfau Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru.

Gallwch weld y Ddeddf yn llawn a’r hyn y mae’n ei olygu ar ein gwefan. https://bit.ly/45BOins
August 28, 2025 at 3:52 PM