Senedd Cymru
banner
senedd.cymru
Senedd Cymru
@senedd.cymru
Lle mae lleisiau o bob cymuned yn cael eu cynrychioli i wneud penderfyniadau dros Gymru. Dy Lais. Dy Senedd. Ein Dyfodol 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 In English 👉 @senedd.wales
Gwnaeth yr Aelod Senedd newydd dros Gaerffili, Lindsay Whittle AS, ei gadarnhad yn Siambr Hywel heddiw.

Gallwch ddysgu mwy am yr Aelodau a dod o hyd i'r AS ar gyfer eich etholaeth yn:
https://bit.ly/3O8po4J
October 24, 2025 at 3:12 PM
Beth yw eich barn chi ar rasio milgwn yng Nghymru?

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd eisiau clywed eich barn!

Cwblhewch yr arolwg a dweud eich dweud: https://bit.ly/4q4JGhR
October 14, 2025 at 11:30 AM
Mae adroddiad gan y Senedd yn rhybuddio bod Cymru wedi cyrraedd croesffordd wrth i raniadau ddyfnhau.

Mae'n galw am gamau brys i feithrin ymddiriedaeth, ymdrin â chamwybodaeth a dod â chymunedau ynghyd. https://bit.ly/4pWrUgt
October 9, 2025 at 3:52 PM
Rhannwch eich barn!

Mae arolwg Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar rasio milgwn yng Nghymru bellach ar gael.

Dim ond cwpl o wythnosau sydd gennych i gymryd rhan, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud eich dweud: 👉 https://bit.ly/42rnLar
October 6, 2025 at 6:15 PM
Holl ddyddiadau allweddol etholiad y Senedd 2026, mewn un lle.

O ddiwrnod y bleidlais i’r cerrig milltir sy’n dilyn yr etholiad, cedwir y llinell amser hon yn gyfredol—y ffordd gyfleus ichi gael y diweddaraf. https://bit.ly/42hYLCu
October 1, 2025 at 3:50 PM
Mae’r Aelodau yn holi Llywodraeth Cymru ar yr economi, ynni, cynllunio, iechyd a gofal cymdeithasol heddiw.

Yn ddiweddarach, byddant yn trafod cynnig i gael Bil ar dipio anghyfreithlon a deiseb yn galw am osod briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau newydd.https://bit.ly/4mM62Bz
October 1, 2025 at 7:33 AM
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth.

Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
September 30, 2025 at 4:10 PM
Yr Aelodau yn holi’r Prif Weinidog yn FMQs heddiw.

Yn ddiweddarach, byddant yn clywed datganiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg a dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru.

Dyma bopeth sydd ar y gweill heddiw:https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=15365&Ver=4
September 30, 2025 at 7:00 AM
Mae cynllunio ar gyfer prosiectau megis amddiffynfeydd rhag llifogydd a datblygiadau ynni’n cael ei ddal yn ôl gan Lywodraeth Cymru.

Dyma un o brif ganfyddiadau adroddiad gan Bwyllgor Seilwaith y Senedd.

Bydd Aelodau’n trafod yr adroddiad yn y Senedd heddiw.

Dysgu mwy: https://bit.ly/4mqv1KF
Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol yn fwy o ddifrif
Rhaid i Lywodraeth Cymru roi rhagor o flaenoriaeth i gynllunio ar gyfer anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
bit.ly
September 24, 2025 at 12:21 PM
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd?

Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/cwis-senedd-cymru/
September 21, 2025 at 1:48 PM
Mae Aelodau o’r Senedd (ASau) wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau – 37 o blaid, 12 yn erbyn ac 1 yn ymatal.

Nawr bydd yn symud i gyfnod trafod manwl a newidiadau posibl cyn i’r Aelodau bleidleisio ynghylch a ddylai ddod yn gyfraith. https://bit.ly/3Vq5whB
September 19, 2025 at 4:02 PM
Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael y cydsyniad brenhinol a daw’n Ddeddf gan Senedd Cymru—cyfraith newydd yng Nghymru.

Gallwch archwilio holl fanylion y Ddeddf ar ein gwefan. https://bit.ly/3UOdNeT
September 18, 2025 at 5:11 PM
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru.

Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith.

🔗 https://bit.ly/46pobjP
September 17, 2025 at 4:05 PM
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi galw am i ofal canolraddol yng Nghymru gael ei ddiwygio.

Mae'n dweud bod rhaid i leoliadau ar ôl yr ysbyty flaenoriaethu adferiad, annibyniaeth a mynediad at ofal arbenigol. https://bit.ly/3K8I0Df
September 16, 2025 at 4:14 PM
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi codi pryderon ynghylch cymorth i gleifion yng Nghymru sy'n gadael yr ysbyty.

Mae'n annog ailfeddwl ynghylch rhyddhau cleifion i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar ymadfer ac ar helpu pobl i fyw’n annibynnol eto. https://bit.ly/3K8I0Df
September 16, 2025 at 9:00 AM
Gallai Bil newydd ail-reoleiddio bysiau, ond yn ôl tystiolaeth mae angen llawer o fuddsoddi a chynllunio.

Mae Pwyllgor y Senedd yn cwestiynu costau ac yn amlygu diffyg manylion.

Fory, bydd y Senedd yn pleidleisio ar ei egwyddorion cyffredinol. https://bit.ly/3I6rWRY
September 15, 2025 at 9:00 AM
Y Llywodraeth a’r Senedd—yn aml yn cael eu drysu, ond ni allai eu rolau fod yn fwy gwahanol.

Beth am edrych yn fanylach ar yr hyn y mae’r ddau yn ei wneud. https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/beth-yw-r-gwahaniaeth-rhwng-llywodraeth-cymru-a-r-senedd/
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Senedd?
The Welsh Parliament is the democratically elected body that represents the interests of Wales and its people. Commonly known as the Senedd, it makes laws for Wales, agrees Welsh taxes and holds the W...
senedd.cymru
September 13, 2025 at 9:00 AM
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Mae’n dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiau’n gynrychiolaeth.

Dyma sut mae’n gweithio a beth mae hynny’n ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
September 12, 2025 at 9:00 AM
Newidiadau mawr ar gyfer 2026: bydd Cymru’n mynd o 40 i 16 etholaeth Senedd, pob un â chwe Aelod.

Dysgwch sut cafodd yr ardaloedd hyn eu llunio – ac ystyr hyn ar gyfer eich cymuned. https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/beth-yw-r-etholaethau-newydd-ar-gyfer-etholiad-y-senedd-yn-2026/
Beth yw’r etholaethau newydd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026?
Yn etholiad y Senedd 2026, bydd Cymru yn cael ei rhannu’n 16 etholaeth, a fydd yn disodli’r 40 etholaeth sydd ganddi ar hyn o bryd. Bydd pob etholaeth newydd yn ethol chwe Aelod o’r Senedd. Felly, bl...
senedd.cymru
September 11, 2025 at 9:00 AM
Gallai Bil newydd drawsnewid teithio â bysiau yng Nghymru.

Ond mae pwyllgor yn y Senedd yn pryderu bod diffyg manylder a chanllawiau clir yn y Bil – ac mae rhanddeiliaid yn cytuno ag ef.

Pleidleisir ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Medi. https://bit.ly/3I6rWRY
September 10, 2025 at 9:00 AM
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru.

Roedd teuluoedd a busnesau’n wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth.

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith.

🔗 https://bit.ly/46pobjP
Difrod stormydd: Diffyg cymorth yn 'gic yn y dannedd'
Mae adroddiad wedi datgelu bylchau difrifol yn ymatebion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i stormydd y gaeaf.
bit.ly
September 9, 2025 at 7:34 AM
Ar 7 Mai 2026, bydd Cymru’n pleidleisio ar y newidiadau mwyaf i’r Senedd mewn 25 mlynedd: 96 Aelod, 16 etholaeth newydd, un bleidlais yr un.

P’un a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newid—a pham. https://bit.ly/40Ycmhx
September 8, 2025 at 9:00 AM
Faint ydych chi’n ei wybod am y Senedd?

Profwch eich gwybodaeth gyda’n cwis cyflym – tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/cwis-senedd-cymru/
September 6, 2025 at 2:51 PM
Oeddech chi’n gwybod bod eich Senedd yn newid yn 2026?

✍️Y ffordd rydych chi'n ethol pwy sy’n eich cynrychioli

🗺️Sawl Aelodau sy'n eich cynrychioli

📅Pa mor aml y cynhelir etholiadau i ddewis pwy sy'n eich cynrychioli

Pob dim sydd angen i chi wybod ⬇️
https://bit.ly/4fU8kev
September 5, 2025 at 9:00 AM
Ydych chi erioed wedi clywed am D'Hondt?

O 2026 ymlaen, bydd y fformiwla hon yn siapio'r Senedd. Mae'n dyrannu seddi mewn rowndiau, gan gydbwyso pleidleisiau a chynrychiolaeth.

Dyma beth mae hyn yn ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru. https://bit.ly/421Qi5U
September 4, 2025 at 12:00 PM