Gareth Xavier
gx0100.bsky.social
Gareth Xavier
@gx0100.bsky.social
Yn ddiweddar, ymunais i â chlwb rhedeg y Cornelly Striders.

I fi, mae rhedeg yn llesol iawn.
Mae'n ffordd dda o glirio fy meddwl, ac mae bod mewn grŵp a chael cwmni yn bwysig i mi yn feddyliol. Wrth gwrs, mae rhedeg yn dda iawn er mwyn cadw'n heini a theimlo'n egnïol hefyd.
July 20, 2025 at 1:17 PM
Peidiwch da chi â gadael i'r wên eich twyllo... roedd hi'n lladdfa allan yn y gwres 🏃‍♂️🥵
.
#rhedeg #ffitcymru #camwyrcorneli #cornellystriders #cadwnheini #keepfit #running #runner #runnersofbsky #asics #10k
July 11, 2025 at 6:39 PM
It's a stay-inside-and-read-good-books kind of a day. And where better to read this than a couple of doors down from Taunton Waterstones #IYKYK #TheListOfSuspiciousThings #GoodBooks #Waterstones @waterstones.bsky.social @jenniegauthor.bsky.social
July 11, 2025 at 2:29 PM
Braf gweld Mistar Urdd yn cael cynrychiolaeth yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision #urdd #mistarurdd #esc #eurovision
May 17, 2025 at 10:14 PM
Parkrun arall heddiw gyda hen ffrind o'r brifysgol – a chawsom ni'n dau record bersonol, er mawr syndod i'r ddau ohonom ni!
Gwnes i'r 5k mewn 20 munud a 21 eiliad, a'r 7.5k mewn 33 munud a 6 eiliad. Mae cwblhau'r 5k mewn llai nag 20 munud yn dod yn nes ac yn nes 🤞
#parkrun #parkrunuk #rhedeg
April 26, 2025 at 11:21 AM
A wonderful visit to Osterley, @nationaltrust.org.uk, on Saturday. A lovely property and grounds – and a massive shout out to Isobel, the friendliest house guide we've met in a long time. Such a warm, knowledgeable and welcoming lady. Thank you 💙 #nationaltrust #nt #nationaltrustmember
April 14, 2025 at 11:14 AM
Newydd orffen hwn gan Dr Campbell Price.
Crynodeb gwych a hygyrch o'r Hen Aifft. Mae'r llyfr yn taflu goleuni ar y bobl a'r diwylliant diddorol hwn ac yn dileu camsyniadau cyffredin. Darllen hanfodol ar gyfer pob Eifftolegydd, yn amaturaidd neu'n academaidd #HenAifft #Eifftoleg #Hanes #Egyptology
April 13, 2025 at 8:48 PM
Ar y ffordd i Amgueddfa Eifftoleg Petrie, dyma ddigwydd taro ar yr eglwys drawiadol hon. Yn wreiddiol, capel neilltuedig ar gyfer Ysbyty Middlesex ydoedd, a chafodd ei dylunio ar ffurf arddull pensaernïol y Bysantiaid.
.
.
.
#fitzroviachapel #eglwys #church #pensaernïaeth #architecture
March 23, 2025 at 10:39 AM
Ffigurynnau angladdol o'r enw shabtis yw'r rhain.
Roedd pobl yr Hen Aifft yn credu y bydden nhw'n gorfod parhau i weithio yn y bywyd nesaf, felly byddai shabtis yn cael eu rhoi yn y bedd gyda'r corff er mwyn cyflawni unrhyw waith ar ran y person marw
#yrhenaifft #ancientegypt #eifftoleg #egyptology
March 22, 2025 at 4:14 PM
Ar gyfer fy mhen-blwydd, gwnes i ymweld â’r haul 🚀

Ond o ddifri', dyma gerflun trawiadol o’r enw Helios gan Luke Jerram. Mae yn yr Assembly Rooms (@nationaltrust.bsky.social) yng Nghaerfaddon, ond bydd yn dod i Gymru (Gerddi Dyffryn) ym mis Mai.

Ewch yn llu i edrych ar ac edmygu’r cerflun hwn!!
February 5, 2025 at 8:35 PM