Emyr Lewis
banner
emyrlewis.bsky.social
Emyr Lewis
@emyrlewis.bsky.social
Barddoni a’r Gyfraith. Yr hawl i glebran.

Poetry and the Law. The right to chat.
Ymson Ysgrifennydd Cartref

Mae hawliau hyd yr ymylon i bawb
o ryw bobol estron
Pawb a’i hawl? Fy hawl yw hon:
yr hawl i fod yn greulon.

Doed dydd y caffo’r Goron - reoli
heb ryw hawliau gwirion;
ond un hawl a gadwn, hon:
Yr hawl i fod yn greulon.
November 17, 2025 at 9:40 PM
A’u higam-ogam fflamgoch
yn darfod yn gawod goch,
dydd barn, goeden fasarn fach,
yw dydd olaf dy ddeiliach.
November 8, 2025 at 10:04 PM
Cwestiwn: pa weilch a’u castiau olygodd
fod blagur afalau
fis Hydref yn hunllefau
bach melys, brawychus, brau?
October 18, 2025 at 2:24 PM
US/UK ‘Tech Deal’

Darllened bob tro y print mân ar y diwedd.

Always read the small print at the end.
September 18, 2025 at 2:18 PM
Y ddiwedaraf mewn llinach wael o Ysgrifenyddion Cartref anryddfrydol. Beio dioddefwyr yn hunan-gyfiawn, siarad yn galed, chwarae i’r galeri.

The latest in an ignoble line of illiberal Home Secretaries. Self-righteous victim blaming, talking tough, playing to the gallery.
September 17, 2025 at 8:13 PM
Weithiau, mewn tir ddifethwyd,
Y mae lle i gwmwl llwyd.
September 1, 2025 at 6:53 PM
Dau geiliog gyda’i gilydd - dau gegog,
dau geiliog digwilydd,
dau geiliog ffond o gelwydd
gwneud caniad heb doriad dydd.
August 16, 2025 at 8:55 AM
Deep cover sleeper
July 7, 2025 at 8:23 PM
Eisteddfod Llandudoch neithiwr. Pleser mawr oedd cael dyfarnu’r gadair i’r amryddawn Wyn Owens o Fynachlog-ddu am gywydd mawl i’r bardd o werinwraig ddysgedig o Lydaw, Anjela Duval, a heriai ‘Rym Ffrainc drwy ei chainc a’i cherdd’. Gobeithio y gwelwn ni o mewn print.
May 18, 2025 at 8:43 AM
Lines penned two days after the presentation by the Prime Minister of the United Kingdom Sir Keir Starmer of a letter of invitation from His Majesty King Charles the Third to the President of the United States of America Mr. Donald J. Trump.
March 1, 2025 at 8:30 PM
Mae rhywbeth yn gorffen heno. Darfod.
Daw arfau amdano
i’w gymryd o’r byd. Da bo.
February 25, 2025 at 2:54 PM
Mulfran lon fry uwch cronfa - Lliw Isaf
yn llaes wacsymera’n
yr haul nawr, a holi wna,
â sgytwad, “Shwt ma’r ‘sgota?”
February 22, 2025 at 1:46 PM
Lines penned on the occasion of Baron Mandelson’s public self-abasement before the President of the United States, Mr. Donald J. Trump
February 17, 2025 at 7:49 PM
February 5, 2025 at 11:11 AM
Yn Aber roedd llawnder y lli heddiw
yn chwyddo a chronni
yn dynn ei swmp, hyd nes i
fur hallt y cefnfor hollti.
January 26, 2025 at 7:47 PM
coeden unig a’i brigau - a rheiny’n
ymrannu’n frigfrigau
fin hwyr, a’r gwyll yn dyfnhau,
yn dal y lleuad olau.
January 23, 2025 at 9:15 PM
Ce n’est pas chouette:
Nourrir les mouettes
Embête la ville de bains!
Alors, ne jette
Ni cacahuètes
Ni, je répète, du pain.
January 14, 2025 at 9:30 PM


Rhaid oedd, braidd, fod strydoedd briw - y ddinas
yn ddianaf heddiw
a’i hil gwylanod chwilfriw
yn nofio llyn Cronfa Lliw.
December 27, 2024 at 5:02 PM
Gleiniau byw goleuni byr bwa’r ach
bore oer mis Rhagfyr
uwch cefnen Llwyn Domen dyrr
y gwagle’n finiog eglur.
December 14, 2024 at 5:09 PM
Rhyw awgrymu truenus a nodweddiadol o fwydrys yn rhyw chwiw-feio’r Gymraeg am broblemau Cymru yn yr erthygl hon yn y Guardian am y celfyddydau yng Nghymru.

www.theguardian.com/uk-news/2024...

Cywilydd. Shame.
December 1, 2024 at 2:26 PM
Regrettable, miserable and classically inchoherent ‘nudge nudge wink wink’ blaming the Welsh language for Wales’ problems going on here in this article in the Guardian about the Arts in Wales.

theguardian.com/uk-news/2024/d…

Cywilydd. Shame.
December 1, 2024 at 2:19 PM


Peidio mentro yw’r peth gorau
Pan fo drysau mas o drefn
Does wybod at ba ddrws y de’i di
Drws y ci neu ddrws y cefn,
Drws y capel, drws y sgubor,
Drws sy’n agor ar y nos
Lle mae tân ac olion dilyw,
A llais Duw’n tarannu ‘dos!’
November 30, 2024 at 10:27 PM
Daniel Owen eto. Mae cychwyn y paragraff hwn yn atgoffa dyn o gychwyn ‘The War of the Worlds’
November 26, 2024 at 10:46 AM
Daniel Owen yn cael laff ym 1871
November 21, 2024 at 11:02 AM
Och be wnawn? A gawn osgoi’r
Boen enfawr heb ein henfoi?
November 12, 2024 at 4:44 PM