Llion Wigley
wigs24.bsky.social
Llion Wigley
@wigs24.bsky.social
A dyma'r llyfr ei hun!
November 6, 2025 at 12:40 PM
Albwm Disc a Dawn, 1970, y clawr gorau erioed, gyda Iris Williams, Y Diliau, Heather Jones, Dafydd Iwan, Yr Awr, a Meic Stevens, 'the only "way-out" figure on the scene'.
October 27, 2025 at 7:14 PM
Rwy'n hapus i gyhoeddi bydd Ynysoedd Gobaith, fy llyfr am iwtopia a syniadau a mentrau iwtopaidd yng Nghymru'r 20G yn cael ei gyhoeddi mewn ychydig fisoedd yn Nhachwedd! www.gwasgprifysgolcymru.org/book/ynysoed...
August 14, 2025 at 2:22 PM
Rwy'n hapus i gyhoeddi bydd Ynysoedd Gobaith, fy llyfr am iwtopia a syniadau a mentrau iwtopaidd yng Nghymru'r 20G yn cael ei gyhoeddi mewn ychydig fisoedd yn Nhachwedd! www.gwasgprifysgolcymru.org/book/ynysoed...
August 14, 2025 at 2:21 PM
J. R. Jones a Gwilym O. Roberts, dau gyfaill ysgol ym Mhwlleili, gyda'i gilydd eto yn y Coleg yn Aberystwyth, 1929, blwyddyn y 'ffrwydriad' i Gwilym O pan ddarllenodd waith Freud am y tro cyntaf. Aeth ymlaen i ddarlithio mewn seicoleg yn America a ysgrifennu colofon chwyldroadol i'r Cymro yn y 60au
July 17, 2025 at 8:04 AM
J. R. Jones, athronydd mwyaf Cymru yr 20ed ganrif, yn 1963
April 27, 2025 at 12:46 PM
Richard Roberts, prif sefydlydd Cymdeithas y Cymod/Fellowship of Reconciliation yn rhyngwladol, gyda heddychwr mawr arall, George M. Ll. Davies yn y canol
April 27, 2025 at 12:45 PM
Elined Prys Kotschnig yn nillad y YWCA yn 1920, y bu'n gweithio gyda cheiswyr lloches yn Rwmania am dair mlynedd. Roedd yn heddychwraig, a seicotherapydd Jungaidd yn ddiweddarach a gyfarfu a Jung ei hun yn y Swistir.
April 23, 2025 at 2:21 PM
Megan Lloyd George, 'Y Gymraes gyntaf yn Aelod Seneddol', 1929
April 23, 2025 at 2:08 PM
Waldo Williams yn ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth gyda Mati Rees, Kichener Davies ac eraill
April 5, 2025 at 3:02 PM
Ysgol haf gyntaf Plaid Genedlaethol Cymru, Machynlleth, 1926
April 4, 2025 at 3:17 PM
Protest Amddiffyn y Tir rhag y Swyddfa Ryfel, Trawsfynydd, 1951
April 4, 2025 at 1:43 PM
Falch o gael cyfle i drafod nofel arbennig Grace Wynne Griffith, Creigiau Milgwyn, 1935, yng nghyd-destun rhywedd a chymdeithas yng Nghymru'r cyfnod yn rhifyn newydd O'r Pedwar Gwynt
March 29, 2025 at 11:57 AM
Cartwn gwrth-filwrol arall o'r Ddraig Goch, 1947, rhan o ymgyrch fawr yn erbyn byddin Lloegr yn meddiannu tir Cymru
March 19, 2025 at 1:54 PM
Hugh MacDiarmid yn un o ysgolion haf Plaid Cymru, Caerffili, yn y 1940au. Kate Roberts yn y llun hefyd yn bellach i ffwrdd
March 18, 2025 at 8:43 PM
Protest gwrth-filwrol yn Amwythig, 1948
March 17, 2025 at 9:46 PM
Cartwn Dewi-Prys Thomas yn erbyn militariaeth, Y Ddraig Goch, 1948
March 17, 2025 at 9:44 PM
Tri cyfaill gorau y Bugail: bacco Amlwch, Perro, ac Olew Morris Evans
March 14, 2025 at 12:29 PM
Llun Philip Jones Griffiths o orymdaith CND i Aldermaston, 1960, o lyfr newydd arbennig Steve McQueen, Resistance, am hanes protest yn yr 20G. Tipyn o lunie o Gymru ynddo
February 13, 2025 at 8:06 PM
Cartwn cenedlaetholgar o Chwefror 75 mlynedd nol. 'Annibyniaeth i Gymru - pa bryd' yw hi bellach
February 13, 2025 at 7:53 PM
Graffiti Cymraeg gwrth-ryfel yn Llanystumdwy, haf 1939
February 13, 2025 at 7:28 PM
Gwent a Gwladwen Jones, ymgyrchwyr dygn i Blaid Cymru yn y 1930au: 'Dyna i chwi'r hanes am y bataliwn o Ffasistiaid penderfynol yr olwg a orymdeithiodd i'r farchnad i'w ddiorseddu wrth iddo werthu'r 'Ddraig Goch' a'r 'Welsh Nationalist', ac yna cilio pan ddiosgodd Gwent ei got i amddiffyn ei safle'
February 12, 2025 at 12:55 PM
Mae ail rhan fy erthygl am hamddena a diwylliant ieuenctid yn y 1920au a 30au yn rhifyn newydd Y Traethodydd. Mae'r lluniau o gylchgrawn Y Ford Gron oedd yn rhoi lot o sylw i ffasiynau'r ifanc, beicio, heicio ayyb!
January 13, 2025 at 5:50 PM
Prynes i hwn heddi 49% achos bod fi'n hoffi syniadau Camus a 51% achos crys e ar y clawr❤️
December 9, 2024 at 5:59 PM
Cyslltiad diddorol rhwng Freud, R. D. Laing a Chymru - roedd Laing yn hoff o ddyfynnu barn Freud ar stori John Galsworthy 'The Apple Tree' sydd wedi'i osod yng Nghymru
December 7, 2024 at 8:05 PM