Tudur Dylan Jones
banner
tudurdylanjones.bsky.social
Tudur Dylan Jones
@tudurdylanjones.bsky.social
Gog yn y De
Tomen y Mur, Trawsfynydd, lleoliad cartref Lleu a Blodeuwedd ym mhedwaredd gainc y Mabinogi.
July 24, 2025 at 5:07 PM
Reposted by Tudur Dylan Jones
Edrych ymlaen at noson o hwyl! Croeso mawr i bawb!💙🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿xx @heleddapgwynfor.bsky.social @tudurdylanjones.bsky.social @emyrlewis.bsky.social
June 10, 2025 at 9:02 AM
Yr haul yn gwawrio o’r tu ôl i’r Wyddfa bore ‘ma.
May 23, 2025 at 1:29 PM
Castell Llywelyn Fawr, Dolwyddelan
May 7, 2025 at 11:02 PM
Reposted by Tudur Dylan Jones
May 6, 2025 at 3:57 PM
Y brif ffordd rhwng de a gogledd Cymru ar un adeg.
April 29, 2025 at 12:55 PM
Mae'n werth rhoi siot ar yr Her Adroddiad yn Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith nos Wener nesaf, a dod yn ail yn lle yn gyntaf!
April 19, 2025 at 4:26 PM
Noson wych heno yn Aberystwyth yn lansio Chwarter Eiliad, cyfrol odidog @joheyde.bsky.social Llongyfarchiadau i ti, Jo.
April 15, 2025 at 10:03 PM
Bu colfen coeden cyhyd – yn gorwedd
ger pont garreg Llechryd,
mae’n aros, aros o hyd
am un samwn i’w symud.
April 10, 2025 at 8:16 PM
Bwlch y Clawdd, rhwng Cwmparc a Nantymoel
March 23, 2025 at 4:52 PM
Reposted by Tudur Dylan Jones
February 28, 2025 at 6:19 AM
Pnawn Sul uwchlaw Castell Carreg Cennen
March 17, 2025 at 8:46 PM
Cylch y lleuad neithiwr o Gaerfyrddin. Mae'r blaned Mawrth i'w gweld i'r dde o'r lleuad ac ychydig i lawr.
March 10, 2025 at 10:27 AM
Trist clywed am farwolaeth Geraint Jarman.
(y llun gwreiddiol ar glawr Barddas 2012 gan Emyr Young)
March 3, 2025 at 5:00 PM
'... a sŵn hen Afon Prysor
yn canu yn y cwm.'
February 27, 2025 at 5:05 PM
O'r tŷ hwn yn 1922 yr anfonodd Goronwy Wyn Rowlands ei swllt at Ifan ab Owen Edwards, ac felly'n dod yn aelod cyntaf Urdd Gobaith Cymru. Pob hwyl i bawb sy'n paratoi ar gyfer yr Eisteddfodau Cylch eleni.
February 20, 2025 at 5:03 PM
Ar y ffordd i Aberystwyth, a heb erioed sylwi fod wal y tu ôl i'r wal sydd tu ôl i'r wal.
Hen ffermdy Troed-y-rhiw, Llanrhystud.
February 14, 2025 at 9:03 AM
Er cilio’r holl gantorion, - er mai mud
yw’r mawl, ambell noson
mae trydar ei adar O’n
dod i foli’r adfeilion.
February 10, 2025 at 6:44 PM