Eisteddfod
banner
eisteddfod.cymru
Eisteddfod
@eisteddfod.cymru
Gŵyl gelfyddydol deithiol fwyaf Ewrop sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎪☀️ #steddfod2025 Wrecsam | #steddfod2026 Y Garreg Las
Mis i fynd tan orymdaith fawr Gŵyl Ddewi yn Wrecsam. Dewch i ddathlu a chefnogi
February 1, 2025 at 10:47 AM
Cyfleoedd arlwyo
#steddfod2025
ar gael nawr!
Rhagor yma ▶️ eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/c...
Gwnewch gais i ddod i werthu bwyd yn Wrecsam
Dyddiad cau 12:00, 17 Chwefror
January 16, 2025 at 5:41 PM
⭐Swydd newydd!⭐
Rydyn ni'n chwilio am Uwch-reolwr Gweithrediadau a Chynhyrchu i ymuno â'r tîm. Cyfle gwych i arwain ein tîm technegol a threfniadau ymarferol yr ŵyl, gyda chyflog o hyd at £52,500.
Manylion yma ▶️ bit.ly/40c6pw9
Dyddiad cau: 23 Ionawr.
Dewch i weithio gyda ni!
January 10, 2025 at 2:28 PM
Beth am ymuno gyda chôr #steddfod2025?
Dewch ar daith sy'n mynd at galon cymuned Wrecsam, a byddwch yn rhan o stori llawn gobaith, emosiwn, a ffwtbol gan Manon Steffan Ros ac Osian Williams
Manylion a ffurflen gofrestru yma: bit.ly/4gX9qI5
January 7, 2025 at 5:44 PM
Dyddiad cau Medal y Cyfansoddwr #steddfod2025 am 10:00 yfory!
Rhagor am y gystadleuaeth a manylion cystadlu yma ▶️https://eisteddfod.cymru/node/3964
January 6, 2025 at 10:57 AM
Diolch i bawb sydd wedi prynu tocyn i gig Huw Chiswell yng Nghlwb y Bont. Mae pob tocyn wedi gwerthu. Beth am ddod draw i gymdeithasu a gwylio’r gig ar y sgrin yn y bar bach ar ôl diwrnod o siopa, bwyta a chefnogi busnesau Pontypridd? Bydd bwced codi arian i gronfa’r llifogydd wrth y bar
December 2, 2024 at 6:26 PM
Cyfle i godi arian i helpu cymuned Pontypridd yn dilyn y llifogydd a diolch i bawb am y croeso eleni mewn noson gyda Huw Chiswell a Catrin Herbert. Dewch yn llu i Bontypridd am y diwrnod, i fwyta, siopa a chloi’r noson yng Nghlwb y Bont. Holl elw’r noson yn mynd i gronfa llifogydd Pontypridd
November 30, 2024 at 7:03 PM
Braf cynnal cyfarfod cyntaf pwyllgor gwaith #steddfod2026 yng Nghanolfan Hermon heno. Edrych ymlaen at y misoedd nesaf o gydweithio
November 28, 2024 at 8:58 PM
Mae dyddiad cau Medal Ryddiaith #steddfod2025 wedi symud i 12:00 (hanner dydd) ddydd Llun 2 Rhagfyr.
Cofiwch uwchlwytho eich cyfrol mewn pryd!
Rhagor yma ➡️ eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/c...
November 26, 2024 at 5:20 PM
Meddwl cymaint am bawb ym Mhontypridd a gweddill Rhondda Cynon Taf y bore ‘ma wrth weld lluniau o’r llifogydd ar draws yr ardal. Mae mor drist gweld y parc, strydoedd a’r busnesau a ddangosodd gymaint o groeso i ni i gyd o dan ddŵr. Cadwch yn ddiogel bawb ❤️
November 24, 2024 at 10:06 AM
Cofiwch gefnogi digwyddiadau Bore Hoffi Coffi dros y sul! Rydyn ni’n casglu arian at gronfa leol #steddfod2025 ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi trefnu digwyddiad
November 23, 2024 at 8:31 AM
Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod eleni yn Rhondda Cynon Taf. Braf iawn cael cydweithio gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf | Helo Blod | Cyngor RCT ac Ymbweru Bro ar brosiect newydd sbon

eisteddfod.cymru/node/3962
November 22, 2024 at 1:37 PM
Llai na phythefnos i fynd tan ddyddiad cau cystadleuaeth Medal Ryddiaith #steddfod2025!
Dyddiad cau: 12:00 (hanner dydd) ddydd Llun 2 Rhagfyr
Rhagor👉https://eisteddfod.cymru/yrwyl/2025/cystadlu/713
Pob lwc!
November 20, 2024 at 4:18 PM
Anodd credu fod 'na 100 diwrnod ers #steddfod2024. Diolch, Rhondda Cynon Taf am chwip o 'steddfod ❤️
November 18, 2024 at 10:00 AM
Dewch i ail-fyw #steddfod2024 mewn rhaglen arbennig o uchafbwyntiau o lwyfannau’r ŵyl
20:30 nos Sadwrn | S4C | S4C Clic | BBC iPlayer
November 16, 2024 at 9:49 AM