deitomos.bsky.social
@deitomos.bsky.social
Heno am 5 (Awst 31)
Sgyrsiau efo Carwyn Eckley am ei gyfrol gynta o gerddi, Elen Simpson o Archifdy Prifysgol Bangor a'r arddangosfa i nodi 1500 mlynedd sefydlu'r Gadeirlan ym Mangor a Derec Llwyd Morgan a rhai o drysorau ei lyfrgell
August 31, 2025 at 3:51 PM
Heno(24/8) am 5 ar BBCRadioCymru bydd James January_McCann yn son archif enwau lleoedd Athro Gwynedd Pierce Comisiwn Brenhinol_EnwauLleoedd
Katrina Moinet o Fôn ydi bardd y mis i Barddas ac Ydwen Jones sydd a hanes Epynt 85ml wedi'r clirio a'r digartrefu a fu yno. 'Cofiwch Epynt'.
August 24, 2025 at 1:40 PM
Am 5 heno (17.08) ar BBCRadioCymru bydd Jenny Day o'r Ganolfan Uwchefrydiau yn son am Gutyn Owain, Gareth Mathews Ad Hanes Prifysgol Abertawe a dau wleidydd Capel Castle St, Eglwys Gymraeg Llundain cyn cloi efo Iestyn Tyne a'i gyfrol am Prosser Rhys, enillydd Cadair Pony-y-pŵl 1924, Gwasg y Bwthyn
August 17, 2025 at 11:50 AM
'Haf neu aeaf, waeth gen i, Carafan a garaf fi' -
hanes carafanio yn y dyddiau cynnar ar
BBC CymruFyw - www.bbc.com/cymrufyw/ert...
gan Elin Tomos yr hanesydd
August 15, 2025 at 3:30 PM
Am 5 heno sgyrsiau efo Dr Rhun Emlyn, Adran Hanes Aber
yn trafod hanes yr offeiriad Hywel Cyffin, un o ddynion Glyndŵr. Yr Athro Patrick Sims-Williams yn son am 'Englynion y Beddau' ac Elena Parina o Brifysgol Bonn a'i hanes a'i hoffter o 'Ciwcymbyrs Wolverhampton' un o gerddi y Ifor ap Glyn
August 10, 2025 at 1:26 PM
Yn y Steddfod yn Wrecsam -
Cofiwch am ddarlith Yr Athro Hywel Wyn Owen ar enwau lleol ym mro'r Eisteddfod. Dydd Mercher Awst 6, 13.30 Pabell Cymdeithasau 2. Hefyd erthygl fer (tud 30) yn Rhaglen Wrecsam.
August 3, 2025 at 12:12 PM
Bydd Dr Ffion Mair Jones (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth) yn trafod ei chyfrol newydd Thomas Pennant: Cysylltiadau Cymreig
@gwasgprifcymru.bsky.social ym mhabell Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bore Iau’r 7fed o Awst am 11yb. Wrthi'n darllen ac edrych 'mlaen.
August 3, 2025 at 12:03 PM
Ar y rhaglen heno
@BBCRadioCymru
am 5 (Ionawr 12) hanes bywyd cerddorol Eleri Llwyd
@elerillwydllan
a nifer o'i chaneuon ynghyd a Barddoniaeth Ystrad Fflur a'r Athro Dafydd Johnston Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth - 'Ond er mai angof angau prudd / Ar adfail ffydd a welaf' -
January 12, 2025 at 4:44 PM
Ar BBCRadioCymru
am 5 heno (05/01) Arthur Gwynn Jones a hanes ieuenctid yng Nghilcain,
Menna Elfyn
a'i darlith am Waldo a'r a'r gyfres darlithoedd i'w gofio.
Yna Andrew Green (Gwallter), a hanes cerdded yng Nghymru. Ail ddarllediad nos Fawrth am 6
January 5, 2025 at 4:41 PM