Cymdeithas yr Iaith
banner
cymdeithas.cymru
Cymdeithas yr Iaith
@cymdeithas.cymru
Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a'n cymunedau fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros ryddid a chyfiawnder.

linktr.ee/Cymdeithas
Byddwn ni gyda stondin yn Gŵyl y Gwrthsafiad / Swansea’s Radical Community Festival dydd Sadwrn yma!

🗓️Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd 2025
⏰ Amser: 11yb - 5yp
📍Elysium, 210 High Street, Abertawe, SA1 1PE

Bydd gweithdai, sgyrsiau, cerddoriaeth a llawer mwy drwy’r dydd! Dewch i ddweud helo 💬💛
November 20, 2025 at 7:03 PM
🗣️”Mae angen cydnabod nad yw dewis rhwng gwasanaeth Cymraeg a gwasanaeth Saesneg yn ddewis cyfartal, mae’n rhaid mynd cam ymhellach i gael gwasanaeth Cymraeg fel arfer ac yn aml gwynebu oedi neu ddiffyg gwasanaeth Cymraeg yn y pen draw”… ⏭️
17% siaradwyr Cymraeg sy'n ffafrio'r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus
17% o siaradwyr Cymraeg sy'n ffafrio defnyddio'r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus yn ôl arolwg blynyddol Comisiynydd y Gymraeg.
www.bbc.co.uk
November 20, 2025 at 2:32 PM
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, wedi colli’i ffordd❌

Mae hi wedi haneru canran y cwynion sy’n destun ymchwiliad ers iddi gael ei phenodi – i’r lefel isaf yn hanes y swydd👇
November 12, 2025 at 10:22 AM
❌ Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi colli’i ffordd

Mae canran y cwynion dilys sy'n destun ymchwiliad gan y Comisiynydd wedi gostwng o 63% yn 2021-22 i 26% yn 2024-25.
November 12, 2025 at 9:10 AM
📸 Protest a Chân
Arddangosfa ffotograffiaeth gan Chris Reynolds

Mae dal amser i chi ymweld â’r arddangosfa yma yn Theatr Volcano, Abertawe!
Mae’r arddangosfa’n cynnwys lluniau eiconig o’r raliau Cymdeithas yr Iaith – gan gynnwys Raliau Deddf Iaith, Tynged yr Iaith, Aberystwyth, a Rali Hywel Teifi.
November 10, 2025 at 2:29 PM
📣 Mae Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr at Gyngor Caerdydd yn mynegi pryder am y diffyg gweithredu ar y Gymraeg mewn addysg, ac yn nodi’r camau y mae angen i’r Cyngor eu cymryd i newid hynny.

👉 Sweipiwch i weld y blaenoriaethau i’r Cyngor ystyried.
November 4, 2025 at 6:31 PM
📢 Cyfarfod Cell Caerdydd - Cymdeithas yr Iaith

Dewch i’n cyfarfod wythnos nesaf i drafod materion sy’n effeithio ar y Gymraeg yng Nghaerdydd

🗓️ Dydd Mawrth, 4ydd Tachwedd
🕖 7yh
📍 Gwesty Halfway, Pontcanna

Hoffech bod yn rhan o’r Gell neu gael mwy o wybodaeth? Ebostiwch:
✉️ caerdydd@cymdeithas.cymru
November 2, 2025 at 9:30 AM
Mae’r Rali Nid yw Cymru ar Werth yn rhan o ymgyrch barhaus Cymdeithas yr Iaith i dynnu sylw at yr argyfwng tai a’r pwysau ar gymunedau Cymraeg.

Dyma brofiadau Tegwen Northam a Jochen Eisentraut o integreiddio’n llawn i’w cymuned. Enghreifftiau byw o’r newid cadarnhaol sy’n digwydd ar lawr gwlad. ⛰️
October 31, 2025 at 7:00 PM
📣 Rali Nid yw Cymru ar Werth: Grym yn ein Dwylo YFORY📣

Rhestr Paratoi📋
👉 Baner neu Arwydd ‘Nid yw Cymru ar Werth’
👉 Esgidiau addas i orymdeithio
👉 Ffon/Camera (i dynnu digon o luniau a fideos)
👉 Cot gynnes
👉 Arian (i brynu nwyddau ar y stondin👀)

Fe welwn ni chi yno!
October 31, 2025 at 1:02 PM
🅿️ Parcio ar gyfer rali Nid yw Cymru ar Werth Bethesda 👇

1️⃣ Clwb Criced a Bowlio Bethesda, LL57 3DT - lle i tua 40 o geir
2️⃣ Canolfan Cefnfaes, Rhes Mostyn, LL57 3AD - lle i tua 25 o geir
3️⃣ Maes Parcio Cae Star (talu ac arddangos), LL57 3AN
4️⃣ Ysgol Dyffryn Ogwen, LL57 3NN - lle i tua 100 o geir
October 29, 2025 at 7:04 PM
Roedd y criw lleol wrthi’n brysur dros y penwythnos yn paratoi popeth ar gyfer y rali 💪

Rydyn ni’n barod ar gyfer rali Nid yw Cymru ar Werth. Ydych chi? 🙌

🗓️ Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd, 12yp
📍 Bethesda
October 28, 2025 at 6:31 PM
Sweipiwch i weld llwybr yr orymdaith! 🚶📍

Mae rali Nid yw Cymru ar Werth yn cael ei chynnal ym Methesda yr wythnos hon 💪

Bydd yr orymdaith yn dechrau o Ganolfan Hamdden Plas Ffrancon ac yn teithio drwy strydoedd y dref i gyrraedd Neuadd Ogwen.

Dewch draw i ymuno a dangos eich cefnogaeth! ✊
October 27, 2025 at 7:01 PM
Welwn ni chi yn y rali wythnos nesaf!

📍 Bethesda
🗓️ 1 Tachwedd | 🕛 12
October 25, 2025 at 8:01 AM
Mae adroddiad wedi datgelu bod carcharorion wedi cael eu hatal rhag siarad Cymraeg gan swyddogion carchar y Berwyn, gohebiaeth Gymraeg yn arafach yn cael ei ddanfon a'i dderbyn, a dim ymdrech i roi carcharorion Cymraeg eu hiaith gyda'i gilydd.

Mwy cymdeithas.cymru/cy/newyddion...
October 23, 2025 at 11:41 AM
Dim ond pythefnos i fynd❗

Ymunwch â ni yn y Rali “Nid yw Cymru ar Werth” – mae’r grym yn ein dwylo ✊

Manylion 👇

12:00 - Ymgynnull Llys Dafydd ar gyfer Gorymdaith
13:00 - Rali yn Neuadd Ogwen

🗓️ Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd, 12yp
📍 Bethesda
October 19, 2025 at 8:00 AM
Fydd Cymru ddim yn rhydd nes bod ein cymunedau yn rhydd ac â grym drostyn nhw eu hunain.
Wnaiff neb roi ein rhyddid ni - rhaid i ni gymryd y grym i’n dwylo ein hunain.
Dewch i Fethesda i rali Nid yw Cymru ar Werth - Grym yn ein Dwylo mewn pythefnos i wneud hynny
www.facebook.com/events/19347...
October 18, 2025 at 2:23 PM
Dewch draw i'n stondin ni yn rali annibyniaeth Y Rhyl am y cyfle cyntaf i brynu un o'n crysau-t newydd sbon ni!
October 18, 2025 at 11:32 AM
Grŵp Hawl i’r Gymraeg📢

Mae’r nod yn glir… sicrhau bod hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael eu diogelu, eu hymestyn a’u gwireddu’n ymarferol ym mywyd beunyddiol pobl Cymru!

Wrth edrych ymlaen at 2026, bydd y grŵp yn⬇️
October 17, 2025 at 6:04 PM
📢 Rali Yes Cymru ac AUOB Cymru dros annibyniaeth📢

📆 Dydd Sadwrn, 18 Hydref
📍 Y Farchnad Annibyniaeth, Y Rhyl
⏰ 12.30yh
👕 Crysau-t newydd sbon a baneri 'Cymru Rydd i Bawb' ar gael i brynu o’n stondin o 10yb ymlaen
October 16, 2025 at 11:02 AM
Ar ddiwrnod Shwmae Su'mae, wrth ddathlu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, rhaid gofyn pam mai dim ond 20% o'n pobl ifanc ni sy'n cael addysg Gymraeg?

Mae angen addysg Gymraeg i BAWB‼️#shwmaesumae25
October 15, 2025 at 11:03 AM
Dyma gipolwg o’r weledigaeth a’r neges bwerus y bydd Siân Gwenllian AS yn rhannu yn y rali Nid yw Cymru ar Werth: Grym yn ein Dwylo✊📣 Dewch i glywed:

📍 Canolfan Chwaraeon Plas Ffrancon ➡️ Neuadd Ogwen, Bethesda
📅 Dydd Sadwrn, 1 Tachwedd
⏰ 12yp
October 14, 2025 at 5:05 PM
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio fod cynllun Cyngor Sir Gâr i ymgynghori ar gau tair ysgol wledig Gymraeg yn risg di-angen i’r Gymraeg ac i’n cymunedau gwledig.

Darllenwch y datganiad llawn yma 👉 cymdeithas.cymru/cy/newyddion...
October 13, 2025 at 5:03 PM
Wrth i gadoediad i'r rhyfel yn llain Gasa ddechrau, mae’r Gymdeithas wedi cyfrannu £1,000 tuag at Gymorth Meddygol i Balesteina (Medical Aid for Palestine, MAP) ac yn galw am lwybr clir i sicrhau heddwch, gwladwriaeth a hawliau i bobl Palesteina🕊️
October 10, 2025 at 5:30 PM
Bydd nwyddau Nid yw Cymru ar Werth ar gael yn y rali ym Methesda fis nesaf!

Yn cynnwys👇
🏷️ Sticeri car “Dyfodol i’n Cymunedau”
☕ Mygiau
👕 Crysau-T

Mae pob ceiniog o’r elw’n mynd yn ôl i’n gwaith ymgyrchu dros ddyfodol Cymraeg i Gymru 💪

Dewch draw i’n stondin i gael eich un chi!
October 8, 2025 at 5:31 PM
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd rhan yn y Cyfarfod Cyffredinol ddydd Sadwrn, a llongyfarchiadau i’r Swyddogion newydd a gafodd eu hethol i Senedd y Gymdeithas🎉

Roedd yn ddiwrnod llawn ysbryd ac egni, ac rydym yn barod am y flwyddyn sydd o’n blaenau!✊🤩
October 7, 2025 at 6:03 PM