Cylchgrawn Barn
banner
cylchgrawn-barn.bsky.social
Cylchgrawn Barn
@cylchgrawn-barn.bsky.social
BARN pobl Cymru mewn cylchgrawn Cymraeg misol.
Celfyddydau. Gwleidyddiaeth. Gwin. Gwyddoniaeth. Llyfrau a mwy.
Reposted by Cylchgrawn Barn
📖 @cylchgrawn-barn.bsky.social

📰 Dathlu’r cant drwy draethu’r gwir

✍️Darllenwch yr erthygl gan Richard Wyn Jones o rifyn diweddaraf BARN am ddim ar Am nawr: www.ambobdim.cymru/profile-cont...
Dathlu’r cant drwy draethu’r gwir - Ambobdim
Nid arbenigo’n unig ar wleidyddiaeth y presennol y mae ein colofnydd. Ef hefyd yw’r arbenigwr pennaf ar hanes ideolegol y mudiad cenedlaethol Cymreig modern. A Phlaid Cymru yn dathlu’i chanmlwyddiant ...
www.ambobdim.cymru
November 10, 2025 at 3:03 PM
Gyda thwf y dde eithafol i’w weld o’n cwmpas ym mhob man heddiw, mae Guto Davies yn adrodd hanes arwrol Harry Dobson o Donypandy – gŵr a ymunodd â’r frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn Ewrop yn ystod y 1930au. Rhan o’n cyfres Arwyr Angof. Rhifyn mis Tachwedd.
#ArwyrAngof #HarryDobson
November 10, 2025 at 7:15 PM
Yn rhifyn Tachwedd o BARN mae erthygl gan ein colofnydd gwleidyddol @richardwynjones.bsky.social am y cyfle, ond hefyd yr her, sy'n wynebu Plaid Cymru os mai hi fydd yn arwain Llywodraeth Cymru o fis Mai nesaf ymlaen. Mae'r erthygl ar gael i'w darllen ar ein gwefan 🔗barn.cymru yn rhad ac am ddim.
November 9, 2025 at 7:55 PM
Bydd ein gohebydd, Gruffydd ab Owain, ar DrosGinio heddiw yn trafod ei ddarn ar bobl ifanc ym Morocco yn herio’r drefn, y twf o ran hunaniaeth genedlaethol yno, a rôl cerdd a phêl-droed yn hyn. Ewch i wrando, a darllenwch ei erthygl AM DDIM yn barn.cymru 🎶⚽️
November 7, 2025 at 1:21 PM
Yn ei golofn ddeufisol newydd, mae Alun Ffred yn myfyrio ar ymlediad diweddar ‘y clwy baneri’ dros ein gwlad, ac yn dweud ei ddweud yn ffraeth ar y mater. Bachwch gopi o rifyn mis Tachwedd i ddarllen ei erthygl. ✍️
November 5, 2025 at 6:26 PM
Mae’n Galan Gaeaf ac mae rhifyn llawn-dop mis Tachwedd yma! 📰

✍️ Richard Wyn Jones ar y cyfle, a’r her, sydd o flaen Plaid Cymru
✍️Gruffudd ab Owain ar y protestiadau diweddar gan bobl ifanc ym Morocco
✍️Alun Ffred ar faneri
✍️Ffion Eluned Owen ar Jess Fishlock... a llawer mwy!
November 1, 2025 at 7:19 PM
Darllenwch gyfweliad gydag Aled Eirug, awdur cofiant newydd Dafydd Elis-Thomas yn rhifyn mis Hydref o BARN.

✍️Peredur Lynch 🔗barn.cymru

Mae'r rhifyn nesaf ar ei ffordd yn fuan...
October 31, 2025 at 2:18 PM
A ddylai’r gogledd-ddwyrain gael Parc Cenedlaethol newydd? Beth yw’ch barn chi ar y cynnig?

Darllenwch erthygl ein gohebydd, Elwyn Vaughan, sy’n trafod pam mae’n gwrthwynebu'r syniad – yn rhifyn mis Hydref o BARN. 📰🗣️ barn.cymru
October 27, 2025 at 4:36 PM
Wyddoch chi y gallwch chi ddarllen dwy erthygl AM DDIM ar wefan newydd sbon BARN y mis yma?

Mae un ohonynt, gan ein gohebydd Geraint Lewis, yn trafod y prinder llwyfan i gerddoriaeth glasurol yng Nghymru. 🎻

Ewch i 🔗 barn.cymru i'w darllen nawr!
October 24, 2025 at 1:47 PM
🎶Beth sy'n gwneud cân yn glasur? Neu'n anthem?
Wrth i ni nodi hanner can mlynedd ers rhyddhau clasur Tecwyn Ifan 'Y Dref Wen', Pwyll ap Siôn sy'n trafod beth sy'n rhoi grym oesol i'r gân. Rhifyn Hydref BARN. Tanysgrifiwch yn 🔗 barn.cymru #YDrefWen #TecwynIfan
October 22, 2025 at 3:01 PM
Dau o’n colofnwyr ar #DrosGinio wythnos yma yn trafod eu herthyglau: @richardwynjones.bsky.social heddiw ar drothwy is-etholiad Caerffili, a @maredgwyn.bsky.social ddydd Mawrth ar yr argyfwng gwleidyddol cyfredol yn Ffrainc. Mynnwch gopi o BARN i ddarllen colofn y ddau, neu ewch i 🔗 barn.cymru
October 17, 2025 at 1:38 PM
Reposted by Cylchgrawn Barn
'Un wedd ar yrfa Dafydd Elis-Thomas sy’n cael ei chadarnhau’n ddigamsyniol gan y cofiant yw ei ran allweddol ... yn sicrhau bod Datganoli yn ymwreiddio yng Nghymru.'

Mynnwch gopi o @cylchgrawn-barn.bsky.social i ddarllen cyfweliad Peredur Lynch ag Aled Eirug am 'Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder'.
October 14, 2025 at 11:37 AM
Mae Pedr Jones, sydd wedi sylwebu llawer ar faterion yn y Dwyrain Canol, yn edrych ar y gwrthwynebiad sydd wedi bod oddi mewn i Israel ei hun i'r rhyfel yn Gaza. ✍️

Rhifyn Hydref BARN 🔗 barn.cymru
October 13, 2025 at 11:46 AM
✍️ Darllenwch erthygl ein colofnydd gwleidyddol
Richard Wyn Jones yn rhifyn Hydref.

Am ddim ar ein gwefan newydd! 🔗 barn.cymru
October 11, 2025 at 3:02 PM
Yn rhifyn mis Hydref, mae @becabrown.bsky.social yn sôn yn ei cholofn am y grŵp Merched Cymru Dros Heddwch, a beth ddaeth â'r criw yma o fenywod at ei gilydd. ✍️
🔗 barn.cymru
October 11, 2025 at 3:01 PM
Wedi cael copi o BARN mis Hydref eto? Ar gael yn y siopau rwan🗞️ neu ar sgrin yn barn.cymru 💻
October 11, 2025 at 2:58 PM
Newyddion cyffrous!

Ar ôl misoedd ar y gweill, mae hi’n barod!
✨Mae ein gwefan newydd YN FYW ✨

🔗 Cliciwch ar barn.cymru

#GwefanNewydd #GwefanBARN #CylchgrawnBARN

Mwynhewch!
October 11, 2025 at 2:56 PM
Newyddion cyffrous!

Ar ôl misoedd ar y gweill, mae hi’n barod!
✨ Mae ein gwefan newydd YN FYW ✨

🔗 Cliciwch ar barn.cymru

#GwefanNewydd #GwefanBARN #CylchgrawnBARN

Mwynhewch!
October 2, 2025 at 4:27 PM
Geraint Lewis sy'n trafod y llwyfannau sydd ar gael i gerddoriaeth glasurol yng Nghymru heddiw yn rhifyn mis Hydref o BARN 🎻
O’r Proms i wlad ‘Pop yw Popeth’

Bu ymweliad â phrif ŵyl cerddoriaeth glasurol Prydain yn ddiweddar yn fodd i atgoffa ein gohebydd am y prinder llwyfan i gerddoriaeth o’r fath yng Nghymru

Darllenwch yr erthygl o rifyn diweddaraf @cylchgrawn-barn.bsky.social nawr: www.ambobdim.cymru/profile-cont...
O’r Proms i wlad ‘Pop yw Popeth’ - Ambobdim
Bu ymweliad â phrif ŵyl cerddoriaeth glasurol Prydain yn ddiweddar yn fodd i atgoffa ein gohebydd am y prinder llwyfan i gerddoriaeth o’r fath yng Nghymru. Wrth baratoi hyn o lith am gyngherddau haf C...
www.ambobdim.cymru
October 1, 2025 at 3:51 PM
🍂 Mae hi’n ddiwrnod cyntaf mis Hydref, ac mae rhifyn diweddaraf cylchgrawn BARN yma! Agorwch eich copi a mwynhau ei gynnwys difyr.

🎭Rhagflas o gynhyrchiad diweddaraf #TheatrCymru
📰Erthygl graff gan @richardwynjones.bsky.social am dwf Reform yng Nghymru… a llawer mwy! #GwleidyddiaethCymru
October 1, 2025 at 12:20 PM
Ceridwen Lloyd-Morgan, yn rhifyn Medi, sy'n rhannu ei hargraffiadau o'r Lle Celf yn Eisteddfod Wrecsam 🎨
September 29, 2025 at 6:19 PM
Mae 'na arddangosfa arbennig yn Oriel Mostyn, Llandudno ar hyn o bryd sy'n cyfuno gwaith newydd gan artistiaid Cymreig cyfoes a gwrthrychau o dair amgueddfa. Aur Bleddyn sy'n ymateb iddi yn rhifyn Medi BARN. Mae Carreg Ateb: Vision or Dream ymlaen tan 27 Medi, felly brysiwch os ydych am ei gweld!🎨
September 23, 2025 at 12:01 PM
Wedi gorffen darllen cynnyrch llenyddol Eisteddfod Wrecsam eto? 📚👑🪑

Yn rhifyn Medi BARN mae Dylan Iorwerth yn bwrw golwg ar y Cyfansoddiadau a Meg Elis yn adolygu'r ddwy gyfrol ryddiaith fuddugol - 'Anfarwol' Peredur Glyn a 'Cuddliwio' Bryn Jones.
September 20, 2025 at 12:34 PM
Ymateb i'r arolygon barn am etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf y mae @richardwynjones.bsky.social ein colofnydd gwleidyddol yn rhifyn mis Medi BARN ✍️
September 20, 2025 at 12:03 PM