Ann Parry Owen
banner
collen105.bsky.social
Ann Parry Owen
@collen105.bsky.social
Cymraes. Barddoniaeth ganoloesol a geiriadura. Athro. Hoffi dysgu pethau newydd. / Welsh lexicography and medieval poetry. @geiriadur @ganolfan
Geiriadura.cymru
Tua diwedd Tachwedd 1606 cychwynnodd cyfnod rhewllyd eithriadol.

Yn ôl y cofnod hwn (ar y chwith) gan John Jones Gellilyfdy yn 1607, rhewodd afonydd Conwy, Dyfrdwy, Tafwys a Llyn Tegid; bu farw nifer o anifeiliaid a bu gostyngiad sylweddol yn niferoedd rhai adar, fel y fwyalchen a’r fronfraith.
November 4, 2025 at 2:20 PM
Beth yw'ch gair chi am slefren fôr neu bysgodyn jeli? Cont fôr oedd gair Lewis Morris (1754) a cheir Cont goch gan Edward Lhuyd (1684). Ond yr enw hynaf sydd gennym yn Gymraeg yw BLOBYS gan John Jones Gellilyfdy (1632).
#GeirfaurFflyd @geiriadur.bsky.social
August 28, 2025 at 9:30 PM
Braf ymweld â @scs-dias.bsky.social yn Nulyn ddoe, a chwrdd ag ambell un a fu yn yr Ysgol Haf yno yn 1984. Hawdd cofio'r flwyddyn gan ein bod i gyd yn cofio'r ddaeargryn, 5.4 ar raddfa Richter. Roedd ei chanolbwynt yn Llithfaen. cy.wikipedia.org/wiki/Daeargr...
August 27, 2025 at 8:33 AM
Cyfarchion o Ffrainc! @prosiectmyrddin.bsky.social
July 3, 2025 at 10:43 AM
"Peidiwch â siarad fel cawod o genllysg o amgylch ei glustiau yn barhaus" a "cofiwch fod caniatâd i ddynion rwgnach am goleri eu crysau".
Cyngor i ferch ar fin priodi (Y Gymraes, 1850).
May 11, 2025 at 9:54 AM
MORGI MAWR - yr enw Cymraeg ar y siarc (Lamna nasus) a fu'n ymweld ag Aberystwyth yn ddiweddar.

Mae'n debygol fod yr enw Saesneg PORBEAGLE yn dod o'r iaith Gernyweg: o porth + bugel, felly "bugail y porthladd / harbwr'.
May 4, 2025 at 8:02 AM
Enw arall ar Fai oedd Cyntefin "dechrau haf".

Mehefin yw canol haf, Gorffennaf yw gorffen-haf. Gwnewch y gorau o bob diwrnod braf!

Cyntefin ceinaf amser:
Dyar adar, glas calledd.
(Llyfr Du Caerfyrddin, 12ganrif)

(=Mai yw'r amser harddaf: Yr adar yn soniarus a'r llwyni'n wyrdd)
May 1, 2025 at 10:26 AM
Esboniad Thomas Evans, Hendreforfudd, Glyndyfrdwy, o sut mae'r eclips yn gweithio - Peniarth 187 ysgrifennwyd 1596 @ArchifauLLGC @llawysgrifau #hoffysgrifydd
April 24, 2025 at 7:04 PM
Braint oedd cael ysgrifennu teyrnged yn @CylchgrawnBarn i Iestyn, un a fu'n gyfaill a chyd-weithiwr mor hoff gan bawb ohonom yn y @Ganolfan a'r @geiriadur.
April 1, 2025 at 8:30 PM
Dyma fi wedi cyflawni dymuniad Catharine Pugh, a meddwl amdani! 🌟 Tybed pwy oedd hi?
March 28, 2025 at 3:43 PM
The M we chose as the logo for the Myrddin Project comes from a collection of calligraphic letters that John Jones of Gellilyfdy made in 1640 "o lyfreu dierth" (from foreign books - Italian perahps?). Please let me know if you know anything about their style etc. @prosiectmyrddin.bsky.social
February 17, 2025 at 8:16 PM
Daw'r M a ddefnyddiwyd gennym yn logo Prosiect Myrddin o gasgliad a wnaeth John Jones Gellilyfdy yn 1640 o lythrennau caligraffig "o lyfreu dierth" (llyfrau o'r Eidal efallai?) Plis gadewch i mi wybod os ydych chi'n nabod yr arddull ac yn gwybod rhywbeth am eu cefndir! @prosiectmyrddin.bsky.social
February 17, 2025 at 8:13 PM
Mae'n anodd peidio â hoffi iaith sydd â gair am falwen yn cerdded ar laswellt: Lladin "herbigrada", yn llythrennol "yn cerdded ar laswellt" ond yn enw gan feirdd Lladin am falwod. O eiriadur gwych Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems, Trefriw, 1604-7 (a'r falwen o'r ardd!)
February 8, 2025 at 4:53 PM
At f’enaid yr anfonais 
ar bapur glân, eglur, glais, 
llun y galon friwowddgradd 
a llun y gwayw 'n ei lladd.  

Cynfrig Hanmer (15/16gan.) yn cyfeirio at yr arfer o yrru llythyr serch.

Llawysgrifen a lluniau gan John Jones, Gellilyfdy
#SantesDwynwen
January 25, 2025 at 1:09 PM
I lunio geiriadur mae angen i'r geiriadurwr gasglu tystiolaeth. Y ffordd draddodiadol bellach yw cadw tystiolaeth ar slipiau, fel y gwnawn yn @geiriadur. Gwahanol oedd dulliau'r gorffennol. Dyma (llun 1af) sut y casglai Thomas Wiliems dystiolaeth yn ail hanner y 16g. i'w eiriadur
January 25, 2025 at 9:01 AM
Mae Studia Celtica 2024, rhifyn 58, wedi ei gyhoeddi! Rhifyn swmpus wedi ei baratoi ar y cyd gan @Ganolfan a @GwasgPrifCymru. Diolch i fy nghyd-olygyddion, i Gwen Gruffudd, a’r diolch pennaf i’r awduron am erthyglau ac adolygiadau difyr dros ben.
January 21, 2025 at 8:42 PM
Studia Celtica 2024, issue 58, is out! Prepared jointly by @Ganolfan and @UniWalesPress. 

A hearfelt thank you to the diligent members of the editorial board, to Gwen Gruffudd, and especially to the authors for a great collection of articles and reviews. 1/2
January 21, 2025 at 8:41 PM
Y @Ganolfan a thref Aberystwyth yn edrych yn hyfryd bore 'ma dan ysgeintiad o eira - neu'n hytrach beli bach crwn meddal sy'n fwy o eira nag o genllysg - a oes gennym ni enw arnynt?
January 9, 2025 at 8:46 AM
"... yn ddieithriad, y llebanod mwyaf meddw a digymeriad yn y fro sydd yn chwarae 'Mari Lwyd'."

Blwyddyn Newydd Dda! 🌟
December 31, 2024 at 10:43 PM
Braf gweld 2 Rhodfa'r Môr, sef cartref cyntaf @yganolfangeltaidd.bsky.social, o 1985 i 1993 (y tŷ Sioraidd pinc ar y chwith yn y llun cyntaf), bellach yn rhan allweddol o'r datblygiadau cyffrous yn yr Hen Goleg, @prifaber.bsky.social Edrychaf ymlaen i'w weld ar ei newydd wedd!
December 27, 2024 at 5:51 PM
@prosiectmyrddin.bsky.social
Mae'n amlwg fod Coed Celyddon yn cyfleu pethau gwahanol i'r geiriadurwr o Gymro (Thomas Wiliems, Trefriw) a'r geiriadurwr o Sais.
Nadolig llawen!
December 19, 2024 at 3:03 PM
Cath lygod (Thomas Wiliems, Trefriw, 1604-7) = mouse trap (Thomas Thomas, 1587)
December 18, 2024 at 8:14 PM