Prifysgol Aberystwyth
banner
prifaber.bsky.social
Prifysgol Aberystwyth
@prifaber.bsky.social
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2024, The Times a The Sunday Times Good University Guide.
English: @aberuni.bsky.social
🌎 Heddiw, rydyn ni’n dathlu ein cymuned ryngwladol anhygoel – myfyrwyr o bob cwr o’r byd sy’n dod â’u diwylliannau, eu syniadau a’u hangerdd. Diolch am wneud Aber yn le mor fywiog, amrywiol a chroesawgar.

#DiwrnodYMyfyrwyrRhyngwladol #Croeso #Amrywiaeth
November 17, 2025 at 11:43 AM
Mae arddangosfa yn y Senedd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru sy’n coffáu ffoaduriaid wedi’i hagor gan y Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant AS a'r Llywydd Elin Jones AS.

🖱 tinyurl.com/yxw72k4e

@andreahammel.bsky.social
#Senedd #cymru #FFOADURIAID #arddangosfa
November 14, 2025 at 4:20 PM
Mewn erthygl newydd, mae'r Athro Jasper Kenter yn trafod sut na all economeg draddodiadol ymateb i argyfyngau byd-eang fel anghydraddoldeb a newid hinsawdd.

🖱️ tinyurl.com/3v7j7rbh

#economeg #erthygl #argyfwngbydeang
Why the UK should look beyond growth to a ‘new economics’ that works for all
Traditional economics can’t respond to global crises like inequality and climate change.
tinyurl.com
November 14, 2025 at 11:12 AM
🫧 Gellir gwneud i ronynnau sydd mor wahanol â swigod sebon a phelferynnau drefnu eu hunain yn union yn yr un modd, yn ôl astudiaeth newydd a allai ddatgloi’r broses o greu deunyddiau newydd sbon - gan gynnwys y rhai hynny sydd â dibenion biofeddygol addawol.

🖱️ tinyurl.com/muv4hut6
November 12, 2025 at 3:52 PM
🎙️Yn siarad o Frasil, ymunodd Dr Hannah Hughes o'n Hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol â rhaglen Sunday Supplement BBC Radio Wales i drin a thafod yr uwchgynhadledd hinsawdd byd-eang.

📻 Heb ei chlywed? Gallwch chi wrando ar y cyfweliad am COP30 yma: tinyurl.com/2th5h854

#COP30 #SundaySupplement
Sunday Supplement - Prisons, Financing, NRW, COP 30, Nancy Pelosi - BBC Sounds
Political news, discussions and analysis, plus a review of the Sunday papers.
tinyurl.com
November 10, 2025 at 11:44 AM
Mae tîm o academyddion a arweinir gan y Brifysgol yn cynnal ymchwil newydd i gyflwr busnesau cefn gwlad yng Nghymru.

🖱️ tinyurl.com/7tw8nfxt

@lpipruralwales.bsky.social
November 6, 2025 at 4:36 PM
Mewn erthygl newydd, mae Dr Hannah Hughes yn egluro sut mae gan lywyddiaeth COP30 Brasil rôl hanfodol i'w chwarae er mwyn gwella uchelgais llywodraethau.

🖱 tinyurl.com/4kuu7sum

@interpolaber.bsky.social
#cop30 #brasil #NewidHinsawdd #llywodraeth
Brazil’s upcoming UN climate summit highlights how tricky climate pledges are to keep
The Brazilian Cop30 presidency has a critical role to play as mediator and bridge builder to increase the collective ambition of governments.
tinyurl.com
November 5, 2025 at 2:03 PM
Mae Dr Lucy Thompson o'n Hadran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn helpu i fynd â gwrandawyr ar daith drwy Loegr Jane Austen yn y gyfres bodlediad newydd hon gan The Conversation sy'n nodi 250 mlynedd ers geni'r awdur.

🖱 tinyurl.com/52m4mc8v

#TheConversation #janeausten #Podlediad #Awdur
Introducing Jane Austen’s Paper Trail – a new podcast from The Conversation
Our new podcast series tries to discover the real Jane Austen by delving deeper into her life, times and novels.
tinyurl.com
November 4, 2025 at 12:47 PM
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Callum Smith yn trafod Charles Fox, gwleidydd carismatig, dadleuol ac yn adnabyddus am ei ddyfyniadau diddiwedd, a sut y gwnaeth adeiladu mudiad gwleidyddol o’i gwmpas ei hun.

🖱 tinyurl.com/2xynv8ww

#TheConversation #gwleidyddiaeth
How 18th-century politician Charles Fox mastered personality politics long before Trump and Farage
Charismatic, controversial and endlessly quotable, Charles Fox built a political movement around himself.
tinyurl.com
November 4, 2025 at 10:48 AM
Mae cyfryngau gwladwriaeth Rwsia yn tawelu gwrthwynebiad mamau i’r rhyfel yn Wcráin, yn ôl astudiaeth newydd gan un o'n hacademyddion.

🖱 tinyurl.com/bre86znr

@interpolaber.bsky.social
@jgmaber.bsky.social
#russia #wcrain #cyfryngau #astudiaeth
November 3, 2025 at 4:45 PM
👂Siawns i wrando eto ar Dr Hywel Griffiths, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn edrych ar drychineb Dolgarrog ym 1925 a beth allwn ni ddysgu ohoni.

🖱️ www.bbc.co.uk/sounds/play/...
Lleisiau Cymru - Gwersi Dolgarrog - BBC Sounds
Hywel Griffiths sy'n edrych ar hanes trychineb Dolgarrog ym 1925 a beth allwn ni ddysgu.
www.bbc.co.uk
November 3, 2025 at 11:27 AM
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Stephen Tooth yn egluro sut, ers Dolgarrog, mae gan y DU record diogelwch cronfeydd dŵr rhagorol ond mae trychinebau'n dal i ddigwydd.

🖱 tinyurl.com/4c2he4vy

#diogelwch #cronfeydddwr #NewidHinsawdd #llifogydd
November 3, 2025 at 10:49 AM
Rydym wrth ein boddau bod Aberystwyth wedi’i enwi’n Ddinas Llên UNESCO – yr un gyntaf yng Nghymru!

Mwy: tinyl.co/3tzx

@librarywales.bsky.social
@uwtsd.bsky.social
@prifweinidog.gov.wales
@unesco.org
October 31, 2025 at 12:52 PM
Mae grŵp newydd a fydd yn hybu ymdrechion i atal camddefnydd grym ledled y byd wedi’i lansio gan ein hacademyddion.

🖱 tinyurl.com/4e6k8pv6
October 31, 2025 at 9:57 AM
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Alice Vernon yn edrych ar sut y gwnaeth galar ar ôl y rhyfel byd cyntaf sbarduno cynnydd mewn seansau — a sut y gwnaeth milwyr marw ‘ysgrifennu’ adref.

🖱 tinyurl.com/4puc894m

@alicevernon10.bsky.social
#Hanes #WW1 #ysbrydion
After the first world war, séances boomed – and dead soldiers ‘wrote’ home
Never before had death affected so many people at once, and taken so many young men in the prime of their life.
tinyurl.com
October 30, 2025 at 2:17 PM
Mae ein hymchwilwyr IBERS wedi cydweithio â gwyddonwyr planhigion blaenllaw eraill i gofnodi amrywiaeth ceirch, gan helpu bridwyr planhigion i ddatblygu ceirch iachach sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd.

🖱️ tinyurl.com/yk7cyzn6

#GwyddorPlanhigion #Ceirch

@nature.com @ibers.bsky.social
October 29, 2025 at 4:54 PM
Llongyfarchiadau mawr i’n Dirprwy Ganghellor, y Fonesig Elan Closs Stephens – Llywydd newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Rhagor: tinyl.co/3t2c
October 28, 2025 at 2:53 PM
📖 Bydd cyfrol newydd o gerddi byrion gan un o'n hacademyddion yn cynnig dehongliad newydd o waith un o feirdd mwyaf nodedig Cymru.

🖱️ tinyurl.com/bdhavc28

#cerddi #cerddibyrion #academydd #cymru
October 24, 2025 at 3:08 PM
Darlunio’r Dirwedd – Symposiwm 🌿

Mae'r Ysgol Gelf yn eich gwahodd i’r symposiwm Darlunio’r Dirwedd, ar y cyd ag arddangosfa Robert Newell, Adleisiau Ymhlith y Creigiau.

🕑 Dydd Mercher 29 Hydref, 14:00 - 17:00
📍 Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth, Buarth Mawr, SY23 1NG

Mwy: tinyurl.com/h5x5tr9y
October 24, 2025 at 10:09 AM
🌎 Llongyfarchiadau i'r Athro Stephen Tooth sydd wedi derbyn gwobr ryngwladol nodedig am ei ymchwil mewn seremoni yn yr Unol Daleithiau.

🖱️ tinyurl.com/4upjbrm2

#GSA2025 #diffeithdir #diffeithdirau #daeareg #GSAconnects2025 #Connects2025
October 23, 2025 at 11:01 AM
👻 Mewn erthygl yn The Conversation, Mae Dr Alice Vernon o'n Hadran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn trafod sut mae ein diddordeb mewn ysbrydion yn datgelu mwy am y rheiny sy'n byw nag am y meirw.

🖱️ tinyurl.com/yhrk9av7

@alicevernon10.bsky.social
#ysbrydion #goruwchnaturiol
Why we keep hunting ghosts – and what it says about us
From Victorian séances to TikTok, our hunt for ghosts reveals more about the living than the dead.
tinyurl.com
October 21, 2025 at 12:08 PM
🎓 Heddiw rydym yn nodi Diwrnod ein Sylfaenwyr - yn dathlu’r bobl arloesol hynny a osododd sylfeini ein coleg ger y lli sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau ledled y byd i newid bywydau er gwell
October 17, 2025 at 12:59 PM
📖 Mae nofel frawychus sydd wedi’i hysbrydoli gan hanes anghofiedig dewiniaeth yng Nghymru wedi’i chyhoeddi gan un o'n darlithwyr.

🖱 tinyurl.com/3thdauua

@mariellisdunning.bsky.social
#nofel #hanes #dewiniaeth #cymru
October 17, 2025 at 12:32 PM
Mae angen i gorff newydd y Cenhedloedd Unedig fydd â'r dasg o ddarparu tystiolaeth i fynd i'r afael â chlefydau sy'n gwrthsefyll cyffuriau gynnwys gwledydd incwm is, yn ôl academydd o Aberystwyth.

Mwy: shorturl.at/yvNhF

@interpolaber.bsky.social
#UN #GwrthsefyllCyffuriau #Clefyd
October 16, 2025 at 11:39 AM
Mewn erthygl yn The Conversation, Mae Dr Aviva Guttmann yn esbonio sut mae ysbïwyr Israel wedi ennill enw haeddiannol am ddyfeisgarwch a chreulondeb. Nid yw mor hysbys eu bod yn aml yn dibynnu ar gudd-wybodaeth gwledydd eraill.

🖱 tinyurl.com/uu8pzk62

#Israel #ysbïwyr #deallusrwydd
How Israel’s famed intelligence agencies have always relied on help from their friends
Israel’s spies have a well-deserved reputation for ingenuity and ruthlessness, Not so well known is that they often rely on other countries’ intelligence.
tinyurl.com
October 15, 2025 at 3:54 PM