Heddlu De Cymru
banner
heddludecymru.bsky.social
Heddlu De Cymru
@heddludecymru.bsky.social
Angen cysylltu? Mae Sgwrs Fyw ar gael drwy https://www.south-wales.police.uk, 24 awr y dydd. Argyfwng? Ffoniwch 999 bob amser.

English: @swpolice.bsky.social
Mae pedwar o bobl wedi cael eu dyfarnu'n euog o lofruddio menyw yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth y llynedd.

https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/news/south-wales/newyddion/2026/ionawr/pedwar-bobl-euog-lofruddiaeth-joanne-penney/
January 30, 2026 at 4:43 PM
Mae ein timau wedi bod allan yn dysgu mwy am faterion lleol a'r hyn sy'n bwysig i drigolion. Ond cofiwch y gallwch roi gwybod i ni am yr ardaloedd hynny lle nad ydych wedi teimlo'n ddiogel, drwy ein harolwg StreetSafe.

https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/notices/street-safe/streetsafe/
January 30, 2026 at 2:57 PM
Rydym wrthi'n recriwtio ar gyfer Cwnstabliaid yr Heddlu drwy ein Rhaglen Mynediad i Gwnstabliaid yr Heddlu a'n llwybr Gradd Plismona Proffesiynol. 🚨

Mwy o wybodaeth ➡️ https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/
January 29, 2026 at 3:02 PM
👋👮‍♂️👮‍♂️
January 24, 2026 at 2:40 PM
Rydym yn apelio am wybodaeth am lofruddiaeth y gyrrwr tacsi John ‘Jack’ Armstrong sydd heb ei datrys dros 40 o flynyddoedd yn ôl.

Daethpwyd o hyd i Mr Armstrong wedi'i lofruddio ger Pen-y-bont ar Ogwr yn 1979 ar ôl iddo gasglu cwsmer o Gaerdydd yn ei dacsi.

➡️ https://bit.ly/3M3hTyW
Ditectifs yn apelio am wybodaeth am lofruddiaeth heb ei datrys o 1979
South Wales Police is appealing for information about the unsolved murder of taxi driver John ‘Jack’ Armstrong more than 40 years ago.
bit.ly
January 23, 2026 at 3:29 PM
Hoffem eich atgoffa unwaith eto am #StreetSafe, ein hadnodd rhoi gwybod yn ddienw sy'n eich galluogi i ddweud wrthym am ardaloedd lle rydych wedi teimlo'n anniogel (ond lle nad oes trosedd wedi digwydd o bosibl).

👉 https://bit.ly/4qystNy

📸: llun o'r llyfrgell ffotograffau
January 21, 2026 at 9:09 AM
Ydych chi wedi gweld un o'n cerbydau yn gwibio heibio gyda'r goleuadau a'r seiren yn ddiweddar? Wel, efallai mai'r Rhingyll Gwirfoddol Prosser fyddai'n gyrru! 🚔

Y Rhingyll Gwirfoddol Prosser oedd y cwnstabl gwirfoddol cyntaf yn ein heddlu i feddu ar drwydded yrru modur uwch. 👏
January 17, 2026 at 11:16 AM
Ydych chi'n gorffen y brifysgol neu'n chwilio am interniaeth neu leoliad? 🎓

Cymerwch olwg i weld beth sydd ar gael ar ein safle swyddi ar-lein 👇

https://policejobswales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/channel-1/appcentre-5/brand-3/xf-822bae87ce98/wid-2/candidate/jobboard/vacancy/6/adv/
January 16, 2026 at 2:29 PM
Gallwch chi chwarae’ch rhan yn cadw pobl yn ddiogel. Byddwch yn wyliadwrus rhag pobl yn ffilmio trefniadau diogelwch, allanfeydd, mynedfeydd neu gamerâu cylch cyfyng, neu unrhyw beth sydd ddim yn teimlo’n iawn.

Dwedwch wrth staff, swyddog diogelwch, yr heddlu neu ar-lein: https://gov.uk/ACT
January 16, 2026 at 12:30 PM
PH Hamilton 🤝 PH Cobbles

Ar batrôl 🤝 Yn edrych yn wych
January 15, 2026 at 8:00 PM
StreetSafe | A oes lôn dywyll yn gwneud i chi deimlo'n anniogel? 🔦 Os hoffech roi gwybod am rywbeth nad yw'n drosedd ond sy'n achosi pryder am ddiogelwch mewn man cyhoeddus, gallwch wneud hynny – yn ddienw.

👉 https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/notices/street-safe/streetsafe/
January 14, 2026 at 5:15 PM
Goroesodd Leon Adams yr ymosodiad y tu allan i orsaf Grangetown yn 2002, ond bu angen gofal 24 awr arno am weddill ei oes.

Bu farw ar Ddydd San Steffan 2024, yn 47 oed.

Ail-apêl am wybodaeth ⬇️

https://bit.ly/ApelLeonAdams
Mae Heddlu De Cymru yn ail-apelio am wybodaeth am yr ymosodiad ciaidd ar Leon Adams yn 2002
Goroesodd Leon Adams yr ymosodiad y tu allan i Orsaf Reilffordd Grangetown, ond bu angen gofal 24 awr arno am weddill ei oes.
bit.ly
December 24, 2025 at 10:21 AM
Mae pump o bobl o Rondda Cynon Taf wedi cael eu dedfrydu i fwy na 19 mlynedd am droseddau cyffuriau, yn dilyn cyflawni gwarant mewn eiddo yn Tylorstown.

➡️ https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/news/south-wales/newyddion/2025/tachwedd/pump-dedfrydu-19-flynyddoedd-droseddau-cyffuriau/
November 23, 2025 at 11:30 AM
#NEWYDDION | Mae defnydd arloesol Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau er mwyn helpu i adnabod unigolion dan amheuaeth a chadw ein strydoedd yn fwy diogel wedi cael ei gydnabod drwy wobr blismona genedlaethol.

➡️ http://bit.ly/4nXMkUY
October 23, 2025 at 9:46 AM
Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion yn Nhrychineb Aberfan, ar 21 Hydref 1966, pan syrthiodd tomen lo ar Ysgol Pantglas.

Rydym yn ymrwymedig o hyd i gofio am y rhai a fu farw, ac rydym yn meddwl am y rhai a gollodd anwyliaid.

Ni chaiff y dioddefwyr eu hanghofio fyth.
October 21, 2025 at 6:30 AM
⚠️ Y llynedd yn y DU, rhoddodd dros 35,000 bobl wybod bod eu cyfrifon e-bost neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu hacio.

🔐 Drwy ddefnyddio cyfrineiriau cryf, waliau tân a phrawf dilysu dau gam (2FA), rydych yn lleihau'r risg o gael eich hacio.
October 12, 2025 at 12:29 PM
Rydym yn cynnal adolygiad fforensig o lofruddiaethau Diane Jones, 21 oed, Shauna Hibberd, 2 flwydd oed, a Sarah-Jane Hibberd, 13 mis oed, yn y Gurnos, yn 1995.

Mae teulu Diane wedi'u gadael heb atebion ers degawdau ac maent wedi dioddef yn aruthrol o ganlyniad hynny.

➡️ http://bit.ly/4hpMulP
October 11, 2025 at 12:06 PM
Mae dau ddyn wedi'u cyhuddo o fwrgleriaeth yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.

Cafodd sawl eitem, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o gwpwrdd arddangos yn y prif adeilad.

Rhagor o wybodaeth ➡️ http://bit.ly/3Iz3oS0
Bwrgleriaeth Sain Ffagan: Dau ddyn wedi'u cyhuddo
Mae disgwyl i Gavin Burnett, 43 oed, a Darren Burnett, 50 oed o Northampton, ymddangos yn Llys Ynadon Northampton heddiw.
bit.ly
October 8, 2025 at 3:48 PM
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal adolygiad fforensig o lofruddiaeth Sandra Phillips yn Abertawe yn 1985.

Cafodd Sandra ei lladd pan oedd yn gweithio mewn siop rhyw ar Dillwyn Street yng nghanol y ddinas ar 14 Mehefin.

Mwy o wybodaeth ➡️ http://bit.ly/48kAFLd
September 26, 2025 at 9:35 AM
Fore heddiw, dydd Mawrth, 23 Medi, ychydig cyn 12.40am, derbyniodd Heddlu De Cymru adroddiad am aflonyddwch yn Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf.

Cafodd tri dyn yn eu hugeiniau eu hanafu ac aethpwyd â nhw i'r ysbyty. Mae un o'r dynion bellach wedi marw.
September 23, 2025 at 2:33 PM
Ystyr sbeicio yw rhoi cyffuriau neu alcohol i rywun arall heb i'r unigolyn hwnnw wybod na rhoi caniatâd i chi wneud hynny.

❗ Mae sbeicio yn drosedd.

Os byddwch yn amau eich bod wedi cael eich sbeicio, gallwch roi gwybod i ni ar-lein.

#MyfyrwyrMwyDiogel
September 21, 2025 at 2:36 PM
Mae Llywodraeth y DU yn profi'r system Rhybuddion Argyfwng ddydd Sul 7 Medi am 3yp.

Gallwch optio allan o rybuddion argyfwng. Er enghraifft, gall dioddefwyr camdriniaeth yn y cartref gyda ffôn wedi ei guddio ei chael yn briodol i ddiffodd rhybuddion 👉 https://www.gov.uk/alerts/opting-out.cy
September 2, 2025 at 2:12 PM
Fel rhan o ymgyrch wedi'i harwain gan yr heddlu cafodd dros 100 o e-feiciau anghyfreithlon eu hatafaelu oddi ar strydoedd.

✅ Atafaelwyd 135 o gerbydau wedi'i gyrru'n fecanyddol (e-feiciau a e-sgwteri anghyfreithlon)
✅ Roedd y beic cyflymaf yn gallu cyrraedd 86 mya

👉 http://bit.ly/3JFWOct
September 2, 2025 at 9:39 AM
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi'i lansio yn dilyn marwolaeth menyw yng Nghaerdydd.

Cafodd swyddogion eu galw i South Morgan Place, Glan yr Afon, am 7.37am fore heddiw (21 Awst).

Oes gennych chi unrhyw wybodaeth? Cysylltwch â ni drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C19-PO1
August 21, 2025 at 1:09 PM
Pob lwc a da iawn i bawb sy'n cael eu #CanlyniadauTGAU y bore yma. 😁 Waeth beth fo'ch canlyniadau, bydd digon o opsiynau ar gael i chi ar gyfer eich dyfodol.

(A da iawn i rieni, gofalwyr, gwarcheidwaid, ac athrawon hefyd!)

August 21, 2025 at 6:58 AM