Cyngor Caerdydd
banner
cyngorcaerdydd.bsky.social
Cyngor Caerdydd
@cyngorcaerdydd.bsky.social
Tudalen Bluesky swyddogol Cyngor Caerdydd. Dilynwch @cardiffcouncil.bsky.social i gael y diweddaraf yn Saesneg.
Dyma’ch diweddariad dydd Gwener:
Cyngor Caerdydd a Myfyrwyr yn dod ynghyd i wella ailgylchu
Disgyblion ADY yn ennill Gwobr genedlaethol y Celfyddydau
Asda yn cael dirwy o £640K am fwyd wedi mynd heibio’r dyddiad dod i ben
‘DYDDiau hir o haf yn dychwelyd gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd!!
July 18, 2025 at 2:18 PM
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth:
21 Baner Werdd i'n parciau – Caeau Llandaf yn ennill am y tro cyntaf!
Gwefan newydd i Wasanaethau Chwarae Plant
Grantiau cymunedol wedi'u dyfarnu i glybiau chwaraeon
Dyddiad i'r dyddiadur: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2025!
July 15, 2025 at 3:23 PM
🚊Mae Cledrau Caerdydd yn dod! Mae Cam 1a (Caerdydd Canolog ↔ Caerdydd Bae) ar y trywydd iawn i'w lansio erbyn 2028, mewn pryd ar gyfer #UEFA2028

Mwy yma: www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...

#CledrauCaerdydd #CludiantCynaliadwy #BaeCaerdydd
June 11, 2025 at 2:34 PM
Rydym wedi dathlu gosod y garreg gopa ar floc newydd o fflatiau Byw'n Annibynnol, sy’n rhan o waith adfywio ystâd Trem y Môr yn Grangetown heddiw gyda @WatesGroup
Darllenwch fwy am adeiladu Bloc B, a fydd yn darparu 24 o gartrefi cyngor iawn i bobl hŷn ⬇️
June 6, 2025 at 3:36 PM
🗞️ Y newyddion gennym ni ➡️ 150 mlynedd ers agor Ysgol Gynradd Adamsdown ➡️ Ehangu'r rhwydwaith o offer achub bywyd yng nghanol y ddinas ➡️ Cyllid grant ar gael i wella adeiladau cymunedol, ac fwy
👉 www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
June 3, 2025 at 7:45 AM
Mae Caerdydd wrth ei fodd o gael ei henwi'n un o'r 13 hyb Gwasanaeth Sifil newydd! Bydd y fenter hon yn dod â chyfleoedd swyddi newydd ac yn cyfrannu at dwf economaidd ledled y DU. Carreg filltir bwysig i'n dinas! www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
May 14, 2025 at 10:41 AM
Eva Clarke, goroeswr yr Holocost, yn derbyn Gwobr Heddwch gan Gaerdydd ar 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Mae ei stori o oroesi ac ymroddiad i addysg yr Holocost yn atgof pwerus o wydnwch a phwysigrwydd cofio'r gorffennol #DiwrnodVE www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
May 8, 2025 at 3:47 PM
Goleuo Castell Caerdydd yn goch wrth i’r ddinas nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop eleni gyda phicnic, partïon, ac arddangosfa.

Stori lawn yma: newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66...
April 29, 2025 at 5:20 PM
Mae lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad, gan gynnwys Paradise Garden, The Canopi, The New Moon, Clwb Ifor Bach, Tiny Rebel, Porters (a mwy) wedi derbyn bron i £200,000 drwy ein cronfa lleoliadau llawr gwlad.

📷Jake Rowles
April 29, 2025 at 4:51 PM
Diweddariad dydd Gwener 👇
✅ Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer prosiect diogelu ac adfer coetir yng ngogledd Caerdydd
✅ Gwaith i ddiogelu ac adnewyddu adeiladau hanesyddol ar Ynys Echni yn dechrau
✅ Disgyblion o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant
April 11, 2025 at 3:32 PM
Hwyl y Pasg ym Mharciau #Caerdydd! 🐰

Ymunwch â'n Ceidwaid Parciau am daith dywys fendigedig a mwynhewch gemau a gweithgareddau celf cyffrous ar thema’r Pasg ar hyd y ffordd!
April 10, 2025 at 1:11 PM
Mae'r cynllun Beics i Blant yn cynnig beiciau a sgwteri wedi'u hailgylchu i ddisgyblion o deuluoedd incwm isel am ddim. Gall ysgol eich plentyn atgyfeirio disgyblion Blwyddyn 5 a hŷn, yn ogystal â brodyr a chwiorydd iau os yw eu taith yn dibynnu ar frawd neu chwaer hŷn.

#Caerdydd
April 9, 2025 at 1:57 PM
Cofiwch ddweud eich dweud cyn 15 Ebrill ar y 'Cynllun Adneuo' sydd â’r nod o greu dros 32,300 o swyddi newydd a 26,400 o gartrefi newydd erbyn 2036.
Darllenwch fwy 👉 www.cdllcaerdydd.co.uk/ymgynghoriad/
#GweithioIGaerdydd #Caerdydd #CaerdyddEinDinas #CaerdyddUnBlaned
April 9, 2025 at 8:54 AM
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth, sy’n cynnwys:
✅ Arddangosfa 'Lleisiau Grangetown' yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i hymestyn
✅ Mae mwy na 1,800 o ddisgyblion yn disgleirio mewn arddangosfa gerddorol ysblennydd diolch i wersi am ddim
April 8, 2025 at 3:44 PM
Diweddariad dydd Gwener 👇
✅ Apêl Daeargryn Myanmar
✅ Cwrdd â'r bobl 'Y Tu ôl i'r Bae', Awdurdod Harbwr #Caerdydd yn dathlu 25 mlynedd
✅ Picnic Dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yng Nghastell Caerdydd
✅ Agor ardal chwarae 'naturiol' newydd ym Mharc y Sanatoriwm yn swyddogol
April 4, 2025 at 3:34 PM
Reposted by Cyngor Caerdydd
Daeth elusennau DEC yng Nghymru ynghyd tu allan i'r Senedd heddiw i lansio Apêl Daeargryn Myanmar yn dilyn y daeargrynfeydd pwerus sydd wedi achosi dinistr trychinebus.

Diolch yn fawr i Llywodraeth Cymru am eich cefnogaeth hael.

I gyfrannu i'r apêl: www.dec.org.uk/appeal/myanm...
Myanmar Earthquake Appeal
Powerful earthquakes in Myanmar have caused catastrophic devastation. Survivors urgently need critical support. Please donate now.
www.dec.org.uk
April 3, 2025 at 12:50 PM
🌿 Newyddion cyffrous! Mae Cyngor Caerdydd bellach yn cynnig casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos drwy gydol y flwyddyn! 🌱 Gan ddechrau'r wythnos hon, gallwch roi eich gwastraff gardd allan i’w gasglu bob pythefnos am 50 wythnos y flwyddyn. Gadewch i ni gadw Caerdydd yn wyrdd ac yn lân! 🌳
March 21, 2025 at 4:08 PM
🚦 Mae Caerdydd yn addasu terfynau cyflymder ar bedwar llwybr 20mya allweddol i wella llif traffig a diogelwch. Yn dilyn adolygiad ac ymgynghoriad cyhoeddus, bydd y ffyrdd hyn yn dychwelyd i 30mya.
March 10, 2025 at 4:24 PM
Diweddariad dydd Gwener 👇
✅ Cynllun cymorth tai a digartrefedd
✅ Ap Amgueddfa #Caerdydd yn cefnogi cymunedau LHDTC+ sy'n byw gyda dementia
✅ Dirwy i landlord a wnaeth geisio troi tenant allan ar WhatsApp
✅ Datblygwr wedi'i ddewis ar gyfer Rhaglen Tai Caerdydd a'r Fro
February 28, 2025 at 4:27 PM
Casgliadau gwastraff gardd pythefnosol i ailddechrau o ddydd Mawrth 18 March 2025.

I ddod o hyd i fanylion eich casgliadau lawrlwythwch app Cardiff Gov 👉 www.cardiff.gov.uk/CYM/preswyly...
neu ewch i’n gwefan 👉 www.cardiff.gov.uk/CYM/preswyly...

#GweithioIGaerdydd #Caerdydd #CaerdyddUnBlaned
February 27, 2025 at 3:38 PM
Dim ond 4 wythnos i fynd nes bod yr ymgynghoriad ar ein strategaeth perygl llifogydd lleol yn cau!
Ewch i wefan yr ymgynghoriad trwy ddilyn y ddolen isod i rannu’ch syniadau â ni.
👉 www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyn...
February 26, 2025 at 11:32 AM
Mae cam nesaf yr ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Newydd Caerdydd, a elwir yn Gynllun Adnau neu’r ‘Cynllun Llawn', ar y gweill.
Bydd y cynllun hwn yn llunio twf y ddinas tan 2036, gan ddarparu 32,300 o swyddi, 26,400 o gartrefi, a #Caerdydd wyrddach a mwy cynaliadwy.
February 26, 2025 at 9:34 AM
Dyma’ch diweddariad dydd Mawrth, sy’n cynnwys:
✅ Mwy o Arian ar gyfer Ysgolion, Gwasanaethau Cymdeithasol a Strydoedd Glanach
✅ Caerdydd Un Blaned yn torri allyriadau carbon y cyngor 18%
✅ Myfyrwyr Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin #Caerdydd wedi'u hysbrydoli i archwilio gyrfaoedd ym maes adeiladu
February 25, 2025 at 4:48 PM
Mae Gŵyl Llên Plant #Caerdydd yn ôl gyda rhestr o awduron a darlunwyr arobryn gan gynnwys Emma Carroll, Jack Meggitt-Phillips, Sioned Wyn Roberts, Rob Biddulph a Maz Evans. Rhagor o wybodaeth ar wefan yr ŵyl 👉 www.cardiffkidslitfest.com/cy/
February 25, 2025 at 4:16 PM
Mae’r arbenigwr tai partneriaeth ac un o ddarparwyr blaenllaw atebion adeiladu preswyl, adfywio ac ôl-ffitio, Lovell Partnerships, wedi cael ei benodi'n gynigydd a ffefrir i gyflawni Partneriaeth Tai Caerdydd a'r Fro.

Mwy isod.
February 25, 2025 at 12:29 PM