Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
banner
cbspenybont.bsky.social
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
@cbspenybont.bsky.social
Ffrwd Bluesky swyddogol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gweler ein protocol cyfryngau cymdeithasol: https://www.bridgend.gov.uk/cy/fy-nghyngor/gwasanaethau-cwsmeriaid/ein-polisi-cyfryngau-cymdeithasol/

English posts: @bridgend.gov.uk
🎅Cyfle olaf i wneud gwahaniaeth y Nadolig hwn!

🎯Rydyn ni’n agos at guro ein targed o £10,000 – gyda'ch rhodd chi mae gennym gyfle i helpu mwy o blant nag erioed i deimlo'r hud eleni!

Cyfrannwch at apêl Siôn Corn: www.justgiving.com/campaign/san...
December 12, 2025 at 2:58 PM
Mae'r datblygwr ynni adnewyddadwy o Ben-y-bont, Infinite Renewables wedi llwyddo i sicrhau cyllid i roi hwb i’w gwaith o ddatblygu technoleg werdd!

🔗 www.penybontarogwr.gov.uk/newyddion/cy...
December 12, 2025 at 9:48 AM
Ar ddydd Gwener 5 Rhagfyr, mynychodd 234 o ddysgwyr Seren Blwyddyn 10 ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr #Bridgend eu cyfarfod Croeso i Seren cyntaf!
December 10, 2025 at 4:52 PM
Clirio’r cartref cyn y Nadolig, neu’n chwilio am fargeinion Nadoligaidd?
Gallwch gyfrannu, neu brynu eitemau dodrefn a thrydan yn ein siopau ailddefnyddio yng nghanolfannau ailgylchu #YPil a #Maesteg.
www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/a...
December 10, 2025 at 12:42 PM
Dathlwch dymor y Nadolig mewn steil yn un o'r 'bwytai cyrchfan' yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Gallwch nawr archebu bwrdd ar-lein yn
bridgenddigital.christmas
December 9, 2025 at 2:49 PM
Ymunwch â ni ym 'Marchnad Nadolig Maesteg Llawen Iawn' am hwyl Nadoligaidd i'r teulu wrth i Sgwâr Marchnad Maesteg gael ei drawsnewid yn Ŵyl y Gaeaf, yn cynnwys stondinau lleol, adloniant byw a mwy!
📅 Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr, 11am - 3pm
December 9, 2025 at 11:41 AM
Angen dianc rhag yr oerfel?

Ewch i un o'n mannau cynnes i gael lle clyd i gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf hwn gyda BAVO ☕

🔗 www.bavo.org.uk/cy/get-help/...
December 8, 2025 at 2:09 PM
#Swydd: Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol rhan-amser, yn gweithio o fewn y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ym Mwrdeistref Sirol #Penybont.

📅 Dyddiad cau: 10 Rhagfyr

jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
December 8, 2025 at 10:18 AM
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer #prentisiaeth yn ein tîm Caffael!

Mae hwn yn gyfle newydd i chi ymuno â'n tîm Caffael Corfforaethol a dilyn prentisiaeth, fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa ym maes caffael.

🔗 jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
December 5, 2025 at 3:03 PM
📢Rydyn ni’n recriwtio – Gweithwyr Cymdeithasol 1, 2 a 3. Ymunwch â'n Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol sy'n gweithio i gyflawni deilliannau cadarnhaol i oedolion ag Anabledd Dysgu. Buddion sylweddol!👉Ymgeisio: jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
December 5, 2025 at 10:46 AM
Beth all Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr gynnig i’ch busness?

✔ Cyfleoedd i rwydweithio gyda busnesau lleol
✔ Y newyddion a datblygiadau diweddaraf
✔Twf busnes drwy weminarau a digwyddiadau

Cofrestrwch heddiw, yn rhad ac am ddim! 👇
www.bridgendbusinessforum.co.uk/cy/
December 4, 2025 at 10:29 AM
Cofiwch siopa’n lleol a chefnogi eich stryd fawr y Nadolig hwn!

Mae cynnig Nadolig Digidol Pen-y-bont ar Ogwr yn ôl ac yn fwy nag erioed gyda chynigion unigryw gan fasnachwyr lleol yng nghanol trefi #Penybont #Maesteg a #Porthcawl!

nadoligpenybontarogwr.online
December 3, 2025 at 1:49 PM
👏🏆Llongyfarchiadau i Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi derbyn Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy am eu harweinyddiaeth yn hyrwyddo bwyd iach, cynaliadwy o ffynonellau lleol.

Lluniau: Matt Horwood
December 3, 2025 at 9:17 AM
📢 Swydd Wag: Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol

⏰ 33 awr y wythnos (Cyfnod Penodol hyd at Mawrth 2028)
💷 £24,307 - £25,099 y flwyddyn

📅 Dyddiad cau: 10 Rhagfyr

🔗 jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
December 2, 2025 at 2:57 PM
🎁 Ydych chi'n fusnes lleol sy'n arbenigo mewn anrhegion wedi'u gwneud â llaw a chynnyrch tymhorol?
Ymunwch â ni ym ''Marchnad Nadolig Maesteg Llawen Iawn'. 🎄
📅 13 Rhag, 11am - 3pm
📍 Sgwâr y Farchnad, Maesteg
Bydd datganiadau o ddiddordeb yn cau am 12pm, 5 Rhag
🔗 forms.office.com/pages/respon...
December 2, 2025 at 10:37 AM
Cadwch yn gynnes dros y gaeaf gyda Mannau Cynnes BAVO ledled Bwrdeistref Sirol #Penybont

Manteisiwch ar le clyd, croesawgar yn eich ardal chi i gadw'n gynnes ac ymgysylltu ⬇️
www.bavo.org.uk/cy/get-help/...
December 1, 2025 at 4:18 PM
🌟 Cynnau Goleuadau Nadolig Cyngor Tref Porthcawl
📅 Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr, 1pm – 5pm
📍 Stryd John Porthcawl
Mwynhewch y dathliadau yn nigwyddiad goleuo Cyngor Tref Porthcawl
🔗 www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/h...
December 1, 2025 at 11:44 AM
🎅 Helpwch i wneud y Nadolig yn fwy disglair i blant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr!

Cefnogwch Apêl Siôn Corn 2025 drwy gyfrannu ar-lein 💜

👉 www.justgiving.com/campaign/san...
#ApêlSiônCorn2025 #Penybont
November 28, 2025 at 12:13 PM
Mae Practice Solutions yn casglu barn ar wasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar gofal cymdeithasol.

Arolwg y Trydydd Sector: tinylink.net/cy1Nq
Profiad byw: tinylink.net/qCLlt

Arolygon yn Cau 30 Tachwedd am 11am.
November 28, 2025 at 8:57 AM
🎅Ydych chi wedi bod yn ddrygionus neu'n ddymunol? Ewch draw i weld Sion Corn yn ei groto ar ddyddiau Sadwrn a Sul o 29 Tachwedd i weld ydych chi wedi cyrraedd y rhestr ddymunol!

📍 Sgwâr y Farchnad Maesteg
www.ticketsource.co.uk/maestegsanta...
November 27, 2025 at 4:03 PM
Mae’n ‘Wanted Week’💙

Ym mis Tachwedd, fel rhan o Fis Cenedlaethol y Gadael Gofal, mae NAMSS yn ymuno â'r Cyfamod Gadael Gofal i lansio ymgyrch gydweithredol.

I gefnogi'r digwyddiad hwn, byddwn yn goleuo'r adeilad dinesig heno.
November 27, 2025 at 2:45 PM
Ymunwch â'n tîm Caffael fel Prentis Caffael!

📅 Dyddiad Cau: 10 Medi
💷Cyflog: £25,185 y flwyddyn

🔗 Gwnewch gais nawr: jobs.bridgend.gov.uk/tlive_webrec...
November 26, 2025 at 3:46 PM
Dathlwch ddechrau’r Nadolig drwy ymweld â chanol trefi #Penybont #Maesteg a #Porthcawl a digwyddiadau gwych y cynghorau tref i Gynnau'r Goleuadau Nadolig www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/h...
November 26, 2025 at 2:32 PM
#CodwnLais

Ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn eleni, rydyn ni eisiau i fwy o ddynion godi eu lleisiau i greu byd lle mae pawb yn ddiogel, yn gyfartal ac yn cael eu parchu.
Ymunwch – Codwch eich llais nawr
November 25, 2025 at 10:12 AM
Llongyfarchiadau i staff a gwirfoddolwyr mewn ysgolion cynradd yn y fwrdeistref sirol a gafodd eu cydnabod am eu cyfraniad rhagorol at raglen Bwyd a Hwyl yr ysgol yn 10fed pen-blwydd Gwobrau Bwyd a Hwyl yng Nghaerdydd.
November 24, 2025 at 12:23 PM