Rhun Fychan
banner
rhunfychan.bsky.social
Rhun Fychan
@rhunfychan.bsky.social
Ffermio, Ymchwil Amaeth, Beicio mynydd, Corgwn, Annibyniaeth 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
I’r bachan nath ddweud Bore da wrtho ni yn caffi Basic yn Vancouver - biti na fydde chi wedi aros i ni gael sgwrs!
June 23, 2025 at 3:53 PM
Pontydd ar ein taith feic o amgylch y Rhinogydd Sul dwetha.
Pont droed yn Cwm llechen, uwchlaw Bontddu
Pont Scethin, Dyffryn Ardudwy
Pont droed yn Cwm Moch, uwchlaw Maentwrog

A pasio heibio Bryn Cader Faner
June 11, 2025 at 7:50 PM
Llyn y Fan Fach, Sinc Giedd a merlod. Taith feic neithiwr ar y Mynydd Du.
May 18, 2025 at 9:17 AM
Ble sy’n digwydd? Are you up there today @drtobydriver.bsky.social ?!
I did wave!
May 17, 2025 at 11:58 AM
Mae llethr ddwyreiniol y Dduallt yn hynod o serth gan gwympo 200m i Waun y Dduallt islaw. Yn agos i’r copa mae dau faen yn ymwthio o’r clogwyn. Bu dad a’i gyfaill yno yn y 60au. Cyfaill dad a’i bibell yn ei geg tra bod Cefin wedi dod a’i feic!
May 12, 2025 at 9:52 PM
Edrych i’r dwyrain o gopa y Dduallt gan edrych lawr a Waun y Dduallt - tarddiad afon Dyfrdwy, gyda llyn Tegid yn y pellter.
May 12, 2025 at 9:31 PM
Llwynog
May 2, 2025 at 8:32 PM
Ar lethrau’r Arennig fach
April 27, 2025 at 12:59 PM
Cwt bugail mewn cyflwr lled dda ar lethrau gogleddol yr Arennig fach, gyda lle tân a simdde ac wedi ei doi a slabiau o gerrig garw
April 22, 2025 at 5:18 PM
Cyn ac ar ôl y tân ar yr Elenydd.
Edrych i'r gogledd o'r garreg wen ar Drum Nantygorlan.
April 13, 2025 at 10:03 PM
Cyn ac ar ôl y tân ar yr Elenydd.
Edrych i de i gyfeiriad Drygarn fawr a Llyn Carw yn y blaen.
April 13, 2025 at 10:01 PM
Cyn ac ar ôl y tân ar yr Elenydd.
Edrych i de i gyfeiriad Drygarn fawr o Gerrig Llwyd y Rhestr.
April 13, 2025 at 9:59 PM
Roeddwn wedi croesi yr ardal a losgwyd dydd Sul dwetha a mi ddilynais yr un llwybr heddiw i weld y niwed wnaed. Mae miloedd o ha wedi ei llosgi rhwng Llynnoedd Teifi yn y gorllewin , cronfa Claerwen i'r gogledd ddwyrain ac Abergwesyn i'r de gyda rhai darnau i'r de yn dal i fygu.
April 13, 2025 at 9:55 PM
Lluniau lloeren o'r tân ar yr Elenydd. Ar y chwith - Sul 6 Ebrill, cyn iddo gynnau y noswaith honno i'r dwyrain o Ystrad Fflur. Y canol - Mawrth 8 Ebrill, gyda llinell o dân yn amlwg ar sawl ochr. Ar y dde - Gwener 11 Ebrill, gyda un darn ar dân i'r gogledd o Abergwesyn. 15km o un pen i'r llall
April 13, 2025 at 9:43 PM
Rhywun yn gallu dweud wrtho fi pam bod y ffôn yma ddim yn ffocysu? Mae'n gweithio yn iawn ar portrait ond dim photo a video. Diolch
April 12, 2025 at 7:12 AM
Tro ar y beic heno heibio Dial Garreg, uwchlaw Cwmyoy ar y Mynydd du, Sir Fynwy.
Yma, yn Ebrill 1136 y lladdwyd Richard de Clare, wrth iddo deithio o'r Fenni i nôl i'w gartre yn Aberteifi. Ymosododd mintai wedi eu harwain gan Iorwerth ab Owain o Gaerleon arno fe a'i gyd-deithwyr a'i ladd.
April 8, 2025 at 8:03 PM
Tro ar y beic heibio Pen Maen Wern heddiw. Cychwyn wrth Llannerch yrfa, heibio Cerrig llwyd y rhestr a Llyn Carw cyn cwympo lawr i gwm Claerwen. Fyny wedyn at Bwlch y dau faen a Drygarn fawr cyn cwymp lawr i Gwm Gwesyn ac Abergwesyn
April 6, 2025 at 6:58 PM
Dro ar y beic heibio Llyn Gynon rhwng Ystrad Fflur a chronfa Claerwen.
Unigeddau'r Elenydd
April 1, 2025 at 8:56 PM
Clip ar yr haul drwy wydr weldio. Roedd i'w weld yn glir i'r llygad ond anodd tynnu llun ar y ffôn!
March 29, 2025 at 11:18 AM
Diwrnod braf o wanwyn ar ffarm yng ngolwg Moelfryn heddiw - Malvern i eraill
March 20, 2025 at 4:16 PM
Taith heddiw - cychwyn yn Llannerch Cawr, islaw argae Claerwen gan ddilyn y Rhiwnant i gyfeiriad Drygarn fawr
Unigeddau'r Elenydd
March 9, 2025 at 8:17 PM
Diwrnod braf ar y beic.
Pumlumon o Hyddgen bore 'ma
March 2, 2025 at 6:37 PM
Eglwys y Gwyddelod
Cylch cerrig ar lethrau gogleddol Cwm Maethlon, Meirionydd wrth ymyl yr hen ffordd o Bryncrug i Pennal.
Llun heddiw wrth fynd heibio ar y beic.
SH 66269 00170
February 16, 2025 at 3:57 PM
Croeso i Bluesky @enwaulleoedd.bsky.social!

Sut mae mynd ati i gysylltu â'r Arolwg Ordnans - OS Maps am y defnydd o enwau Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg wreiddiol?

Un engraifft dwi wedi sylwi arni yn ddiweddar yw 'Bowstreet brook'. Dwi'n credu mae Nant Ceiro dylai hon fod.

Diolch
January 18, 2025 at 11:41 AM
Ffurfiau diddorol yng nghreigiau Bae Ceibwr ger Trewyddel pnawn'ma
January 1, 2025 at 5:09 PM