Gruff
banner
gruffydd-sion.bsky.social
Gruff
@gruffydd-sion.bsky.social
Dylunydd 🎨 Awdur achlysurol 🎭 Cyfarwyddwr Creadigol yn y BBC 💻

Designer 👨‍🎨 Occasional author 📝 Creative Director for Service Design and UX at the BBC 👨‍💻

📍Caerdydd | Cardiff
Mae o werth crybwyll gyda llaw mai dim dyma'r tro cyntaf i'r syniad teganau 'ma ddod i'r amlwg. Yn 2021 cafodd y dylunydd bach yma go ar rywbeth ddigon tebyg. Defnyddiwyd DIM AI o gwbl i greu'r rhain, mond creadigrwydd, mynadd a chariad at y cynnwys. Os alla i wneud o... (FIN)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Dim dyma fydd y 'trend' olaf i wneud defnydd o luniau AI, ond cyn i'r nesaf gyrraedd dwi'n gobeithio gwneith y sefydliadau hyn adlewyrchu ar wir gost y dechnoleg ar y sector greadigol yng Nghymru ac i'w brand nhw fel cwmnïau. Ydi o wir werth y 'like'? (17/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Mae'n hawdd gwneud sbort ond dim gweld bai ydi pwrpas yr edefyn hwn. Fel unrhyw dechnoleg newydd mae'n naturiol bydd cyfnod o arbrofi a bod camgymeriadau a dewisiadau annoeth am gael eu gwneud heb falais na fwriad gwael OND fel sefydliadau cenedlaethol mae goblygiadau i'w cysidro... (16/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Honerable mention i rhain. Byddwn i'n talu i weld Ifan Jones Evans yn trio ffitio fewn i'r tractor yma gan gyfrif Cefn Gwlad ond dwi'm yn meddwl byddai Llywodraeth Cymru yn fodlon gweld y faner yma yn hedfan tu allan i'r Senedd er eu bod yn ddigon bodlon ei rannu ar eu cyfrif Insta swyddogol. (15/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
O leiaf maen nhw'n edrych fel teganau sy'n fwy na alla'i ddweud am ymgais Heno. Dwi'm yn siŵr iawn pam bod y ffigyrau yma angen esgid (neu ddwy) fel ACCESSORI [sic] pan di'r AI heb foddran cynnwys coesau. (14/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
I fod yn benodol... edrychwch ar Cassie a Dai yn yr enghraifft yma gan Bobol y Cwm. Does dim cysondeb rhwng y cymeriadau. Mae'r llygad yn wahanol, mae maint y pen i gymharu â'r corff yn wahanol, mae ratio'r paced yn wahanol, heb sôn am y ffaith bod logo'r gyfres wedi newid ers mis Hydref. (13/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
4. Safon. Ydi'r cynnwys mewn gwirionedd yn ddigon dda i'w rannu? Petai'r darlun wedi cael ei greu gan ddylunydd yn hytrach na chyfrifiadur byddai'r gwaith wir wedi cael ei dderbyn? Byddwn i'n cwestiynu hynny wrth weld rhai o'r enghreifftiau "dolltrend" gafodd eu rhannu heddiw... (12/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Os nad oes strategaeth AI gan y cwmni dylid chwarae hi'n saff a pheidio defnyddio'r dechnoleg nes bod rheolau yn eu lle. (11/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Os ydi'r Urdd er enghraifft am ddefnyddio AI i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol dylid hynny fod yn ddewis bwriadol y gellir ei gyfiawnhau gan y busnes, yn hytrach na phenderfyniad byrbwyll i neidio ar 'trend' a all niweidio'r brand yn yr hir dymor... (10/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
3. Strategaeth. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n realistig na dymunol fel busnes i ymwrthod rhag defnyddio AI yn gyfan gwbl OND mae dyletswydd ar fusnesau i wneud penderfyniadau strategol ynglŷn â phryd a sut maen nhw am ei ddefnyddio a chysidro effaith y penderfyniadau hynny o flaen llaw... (9/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
yn hytrach na chefnogi'r sector greadigol a thalu dylunwyr a darlunwyr, mae nhw'n cyfleu'r neges bod dim gwerth i'r sgiliau yma. Ag os yw hynny’n wir am ddylunwyr pa sgiliau creadigol gall eu hallanoli nesaf? Sgriptio? Storïo? Cyfarwyddo? Ai dyma sut mae meithrin Cymru creadigol y dyfodol? (8/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
2. Undod. Does dim dwywaith bod y cyfnod presennol yn un heriol i'r sectorau creadigol, ac mae AI yn rhannol gyfrifol. Mae dyletswydd arnom ni sydd yn gweithio yn y sectorau hyn i gefnogi ein gilydd a pharchu gwerth artistiaid. Os ydi S4C er enghraifft yn defnyddio AI i greu darluniau... (7/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Pam? Amlwg eto efallai, ond mae cael sefydliad Cenedlaethol yn defnyddio AI mewn ffordd mor amlwg yn normaleiddio'r dechnoleg a rhoi "caniatad" i fusnesau llai o faint wneud yr un peth. (6/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
1. Cyfrifoldeb. Mae rhai sefydliadau gyda mwy o gyfrifoldeb am yr hyn maen nhw'n rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol nag eraill. Amlwg efallai, ond wrth neidio ar trends mae 'na wahaniaeth enfawr rhwng dy fodryb Janet yn creu darlun AI a chyfrif swyddogol Senedd Cymru yn gwneud yr un peth... (5/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Be felly allwn ni ddysgu o'r tuedd newydd yma a pa ffactorau dylai sefydliadau gysidro wrth edrych ymlaen at y tro nesaf mae trend o'r fath?... (4/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
alla'i ddim dweud fy mod yn erbyn defnyddio'r dechnoleg ymhob achos. Dwi'n gweithio yn y sector digidol - mae AI yma i aros a'n lle ni ydi dysgu sut i'w ddefnyddio mewn ffyrdd cyfrifol a moesegol a gyda dealltwriaeth lawn o'r effaith. Wrth edrych ar "dolltrend" mae lle i gychwyn trafodaeth. (3/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
Mae'r darluniau yma wedi cael eu creu gydag AI, ChatGPT i fod yn benodol. Wrth gwrs mae AI yn ddadleuol i ddweud y lleiaf - mae cyhuddiadau bod y dechnoleg wedi ei hyfforddi ar waith creadigol heb ganiatâd artistiaid yn peri gofid heb sôn am effaith y gofynion ynni ar yr amgylchedd. Er hyn... (2/)
April 10, 2025 at 7:14 AM
It’s mostly correct. Would be good to see the English for comparison.

Some suggested changes in alt text
March 14, 2025 at 10:03 AM
Fuodd criw ohonom yn gwylio’r ffilm am y ganfed tro rhai dyddiau nol. Dal yn haeddu ei le fel clasur!
December 11, 2024 at 11:54 PM
A masiwr na dyna pam dio ddim ar YouTube bellach! 😂
December 3, 2024 at 10:08 PM