Elis Dafydd
elisdafydd.bsky.social
Elis Dafydd
@elisdafydd.bsky.social
Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Beirniadaeth lenyddol, llenyddiaeth, sgwennu creadigol.
Pennill Dic Jones ar gychwyn hunangofiant Gerallt Lloyd Owen, ‘Fy Nghawl fy Hun’.
December 2, 2024 at 12:22 PM
Wedi cymryd oes i ail-ddod o hyd i’r dyfyniad isod felly dyma’i rannu yma. Gwahoddiad agored Haris Pašović ar ran ‘Grŵp Goroesi Artistig Sarajevo’ a anfonwyd at Susan Sontag yn ystod y Gwarchae.

(Sgrinlun o erthygl Amber Massie-Blomfield yn y TLS y llynedd.)
December 1, 2024 at 10:51 AM
Braf gweld bod @cylchgrawn-barn.bsky.social wedi cyrraedd y Lle Hwn! Ewch i ddarllen adolygiad Simon Brooks o gyfrol deyrnged Gwynn Matthews yn y rhifyn cyfredol. Craff a dadleuol.
November 21, 2024 at 10:49 AM
Teyrnged wych i Waldo. Dw i’n siŵr y byddai o wrth ei fodd — roedd ei hoffter o o enwau uniaith Saesneg a chynhyrchu cyfalaf yn ddiarhebol.
November 21, 2024 at 10:16 AM
Wrthi’n paratoi darlith nesa’r modiwl Herio’r Drefn: Llenyddiaeth Wrthryfelgar. Mi fuon ni’n trafod syniada Emyr Llew ac Adfer, a thestunau gan Tecwyn Ifan ac Alan Llwyd ddoe. Ymlaen at Geraint Jarman a Steve Eaves yr wythnos nesa! Y gerdd isod gan Jarman o’r gyfrol ‘Eira Cariad’, 1970.
November 15, 2024 at 10:47 AM