Datblygiadau Egni Gwledig
banner
degcymru.bsky.social
Datblygiadau Egni Gwledig
@degcymru.bsky.social
Menter gymdeithasol ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Gweithio gyda chymunedau i arbed arian ar ynni trwy effeithlonrwydd, cynhyrchu a chydweithio.
Pinned
Mae DEG yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi gweithredu dan arweiniad y gymuned ledled gogledd-orllewin #Cymru i gynyddu gallu ein hardal i ymdopi â chost gynyddol tanwydd ffosil a gwella ein hamgylchedd naturiol.

www.deg.wales

#ynni #tloditanwydd #retrofit #olosod #energy #fuelpoverty
Rydym yn hynod falch o rannu bod ein Cyfarwyddwr, Grant Peisley, wedi cael ei enwi'n Arweinydd Gweledigaethol Gweithredu Hinsawdd y Flwyddyn 2025 (Cymru).

Y wobr / the award: smenews.digital/winners/datb...

Am y wobrau / About the awards : smenews.digital/sme-news-app...
October 20, 2025 at 12:25 PM
Am fraint!

Mae’r wobr hon yn atgof pwerus o gryfder cyfunol ein partneriaid, ein rhwydwaith, a’r cymunedau anhygoel ledled Cymru sy’n ymroddedig i gyflawni dyfodol gwydn, carbon isel, lle mae cymunedau’n cefnogi ei gilydd ac yn cymryd perchnogaeth o’u hasedau.

www.deg.wales/gwobrbcc/
October 16, 2025 at 2:08 PM
Mae'n anrhydedd i ni gael ein henwebu ar gyfer Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025.

We’re honoured to be nominated for Environmental Social Enterprise of the Year at the Social Business Wales Awards 2025.

More: cwmpas.coop/latest/socia...
September 1, 2025 at 3:12 PM
Siaradodd Grant ar S4C neithiwr: am waith DEG yn cefnogi 150+ o grwpiau i dorri biliau a carbon, a 650+ o bobl leol drwy’n Swyddogion Ynni.

Hen dai, cyflogau isel a prisiau trydan uchel = tlodi tanwydd.

Mae’n rhaid i’r llywodraeth ddewis: pobl leol neu cwmnïau mawr, rhyngwladol.

#YnniCymunedol
August 28, 2025 at 10:05 AM
Rydym yn falch iawn o ddathlu chwe blynedd o fod yn gyflogwr Cyflog Byw!

Mae tegwch a chyfiawnder yn werthoedd canolog i DEG, ac rydym yn credu bod angen safon byw dda ar bawb i ffynnu. Dyna pam ein bod yn un o fwy na 15,000 o sefydliadau sy'n dewis talu'r Cyflog Byw Go Iawn.
July 29, 2025 at 3:10 PM
Sut mae cymorth ein Swyddogion Ynni wedi helpu pobl hefo'u biliau trydan a'u defnydd o ynni: www.deg.wales/adborth-psng/

How DEG's Energy Officers have helped people with their energy bills and usage: www.deg.wales/feedback-psn...

Mae ein Swyddogion Ynni dal ar gael i'ch helpu chi - cysylltwch!
July 2, 2025 at 3:43 PM
"Mae'n neges mor syml: ei berchnogi gyda'n gilydd, ei wneud yn fforddiadwy, ei gadw am byth."

Lowri (GwyrddNi) a Phil (Cyd Ynni) o DEG yn sôn am botensial cyffredino #ynni yng Ngogledd Cymru:

www.lowimpact.org/posts/the-po...

#ynnicymunedol #cymunedoli #communityenergy #energycommons
Commons in north Wales
Commons in north Wales: interview with Lowrie and Phil of DEG, a group building commons in north-west Wales.
www.lowimpact.org
June 26, 2025 at 1:30 PM
Reposted by Datblygiadau Egni Gwledig
☀️𝗠𝗮𝗲 𝗮𝗺𝘀𝗲𝗿𝗹𝗲𝗻 𝗛𝗮𝗳 𝗚𝘄𝘆𝗿𝗱𝗱𝗡𝗶 𝘆𝗺𝗮! 🌿🌍 𝗧𝗵𝗲 𝗛𝗮𝗳 𝗚𝘄𝘆𝗿𝗱𝗱𝗡𝗶 (𝗦𝘂𝗺𝗺𝗲𝗿) 𝘁𝗶𝗺𝗲𝗮𝗯𝗹𝗲 𝗶𝘀 𝗵𝗲𝗿𝗲! ☀️

Rhai o'r digwyddiadau sy'n dod i fyny / Highlights: bit.ly/hafgwyrddni
Yr holl ddigwyddiadau i ddod / All events: www.gwyrddni.cymru/digwyddiadau/
June 18, 2025 at 8:58 AM
Ar ôl gweithio gyda dros 150 o gymunedau ar brosiectau ynni yng ngogledd Cymru, rydym wedi gweld effaith grymuso cymunedau i gymryd rheolaeth o'u hadnoddau eu hunain - a'r elw yn mynd yn ôl i'r gymuned!

E.e. gwaith Cyd Ynni: www.deg.wales/cyd-ynni/

#Ynnicymunedol er mwyn #cenhedlaethaurdyfodol!
“Local power, owned and run by communities, can be the key to solving Wales’ future energy needs, says the Future Generations Commissioner.”

futuregenerations.wales/news/make-ou...
June 11, 2025 at 11:51 AM
Mae Gwenno ac Osian, dau o'n Swyddogion Ynni, wedi bod yn cydweithio hefo GwyrddNi i fynd at ysgolion lleol a'u dysgu am ynni.

Dyma ychydig o'r gwaith gwych maent wedi bod yn ei wneud yn Ysgol Llanllyfni hefo Siôn - roedd y disgyblion mor frwdfrydig, penderfynon bod yr ysgol angen paneli solar! ☀️
May 23, 2025 at 10:04 AM
Mae Cynnig Cymraeg yn dangos i gwsmeriaid bod gwasanaethau ar gael yn yr iaith Gymraeg.

Mae ein staff i gyd yn rhugl yn y Gymraeg, felly gallwch siarad hefo ni ffordd bynnag rydych eisiau yn y Gymraeg.

#CynnigCymraeg DEG: www.deg.wales/cynnig-cymraeg

Mwy: buff.ly/3o922R5
May 13, 2025 at 10:33 AM
Yn DEG, rydym yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy feithrin gweithredu cymunedol hirdymor a chydweithredol ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Rydym wrth ein boddau bod gwaith GwyrddNi wedi cael ei gynnwys yn Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 newydd (tudalen 41)!
April 29, 2025 at 11:44 AM
Rydym yn angerddol am gefnogi pobl hefo tlodi tanwydd a gweithredu cymunedol.

Mae ein hymrwymiad i ddyfodol tecach yn dechrau o fewn ein sefydliad ni.

Mae pawb yn haeddu cyflog sy'n cwrdd â chost byw go iawn - dyna pam rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw.

Mae'r dyfodol yn "deg" 😉!
April 28, 2025 at 3:36 PM
Reposted by Datblygiadau Egni Gwledig
🌿Roeddem yn falch iawn o groesawu cymaint o wynebau cyfarwydd a newydd dros ein calendr o ddigwyddiadau Gwanwyn GwyrddNi.🌿

🌿We were delighted to welcome so many familiar and new faces over our spring calendar of events - Gwanwyn GwyrddNi.🌿

Cymrwch ran / Get involved: www.gwyrddni.cymru
April 23, 2025 at 9:53 AM
Rhaglen wych o bethau yn digwydd ar draws pum cymuned GwyrddNi - o Fawrth 29 - Ebrill 20!

A wonderful programme of things happening across GwyrddNi's five communities from the 29th of March to the 20th of April!
🌸🥳𝗠𝗮𝗲 𝗖𝗮𝗹𝗲𝗻𝗱𝗿 𝗚𝘄𝗮𝗻𝘄𝘆𝗻 𝗚𝘄𝘆𝗿𝗱𝗱𝗡𝗶 𝘆𝗺𝗮! 🌸

Ewch i'r wefan i bori drwy i digwyddiadau cyffrous sy'n dod i fyny: www.gwyrddni.cymru/digwyddiadau/

🌸𝗧𝗵𝗲 𝗚𝘄𝗮𝗻𝘄𝘆𝗻 𝗚𝘄𝘆𝗿𝗱𝗱𝗡𝗶 𝗰𝗮𝗹𝗲𝗻𝗱𝗮𝗿 𝗶𝘀 𝗵𝗲𝗿𝗲! 🌸

See our website to explore the exciting events coming up: www.gwyrddni.cymru/en/events2/
March 26, 2025 at 2:56 PM
Newyddion gwych gan Ynni Lleu - a llongyfarchiadau mawr i chi!

Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi'r gwaith gwych yma trwy DEG, Cyd Ynni a GwyrddNi.

#ynnicymunedol #communityenergy #cleanenergy #ynnigwyrdd #dyfodolgwyrdd #sustainability #renewableenergy
March 11, 2025 at 9:47 AM
Reposted by Datblygiadau Egni Gwledig
GwyrddNi: Creu Cymunedau Gwyrdd

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.

Mwy ar www.gwyrddni.cymru

#newidhinsawdd #gwynedd #gweithreduhinsawdd #naturcymru
November 27, 2024 at 1:23 PM
Bydd swyddogion ynni DEG yn siarad am sut i arbed #ynni yn eich tŷ fel rhan o Glwb Hwyl Porthi Dre Dydd Llun y 3ydd o Fawrth o 11:30-12:30.

DEG's energy officers will be talking about how to save #energy at home as part of Porthi Dre's Fun Club on Monday 3rd March between 11:30-12:30.
February 27, 2025 at 2:37 PM
Mae DEG yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi gweithredu dan arweiniad y gymuned ledled gogledd-orllewin #Cymru i gynyddu gallu ein hardal i ymdopi â chost gynyddol tanwydd ffosil a gwella ein hamgylchedd naturiol.

www.deg.wales

#ynni #tloditanwydd #retrofit #olosod #energy #fuelpoverty
February 3, 2025 at 10:25 AM
Reposted by Datblygiadau Egni Gwledig
🎉Dyma ni, ein hadroddiad ar Gyflwr y Sector Ynni Cymunedol 2024.

Ar gael i'w ddarllen yma:

communityenergy.wales/content/publ...

🎉Here it is, our report on the State of the Community Energy Sector 2024.

Available to read here:

communityenergy.wales/content/publ...
December 10, 2024 at 9:39 AM