Y Geiriadur
banner
geiriadur.bsky.social
Y Geiriadur
@geiriadur.bsky.social
Pinned
Ap GPC ar iOS 18.4 wedi'i drwsio: Mae gwall a rwystrodd yr ap rhag llwytho dan iOS 18.4 ymlaen wedi'i drwsio. Rydym yn dal i weithio ar agweddau eraill ohono. Mae'r fersiwn newydd ar gael o App Store Apple. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Gair y Dydd sbectol www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyfais i gywiro golwg diffygiol neu i amddiffyn y llygaid, sef dwy lens mewn ffrâm sy’n gorffwys ar y trwyn ac a gedwir yn ei lle gan ddwy fraich am y clustiau. Mae'r gair yn fenywaidd fel arfer, h.y. y sbectol hon, sbectol goch.
November 13, 2025 at 4:40 PM
Gair y dydd: lle chwech www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., un o eiriau neu ymadroddion niferus y Gymraeg am ‘dŷ bach neu doiled’. Cymharer astyllen, cachdy, geudy, lle slei, pisty, prifai, tŷ bach.
November 12, 2025 at 12:18 PM
Gair y Dydd: cofeb geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – dyma gofeb ryfel genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd. Y dyddiad heddiw oedd dyddiad y cadoediad ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918.
November 11, 2025 at 1:43 PM
Gair y dydd: cant geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Can mlynedd i heddiw ganwyd yr actor enwog Richard Burton ym Mhont-rhyd-y-fen.
November 10, 2025 at 1:08 PM
Gair y dydd: MORGLAWDD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef clawdd neu wal yn ymestyn i’r môr i amddiffyn harbwr neu draeth rhag rhyferthwy’r tonnau.

Mae’n werth ymweld ag Aberaeron a cherdded ar hyd y morglawdd newydd sbon yno!
November 7, 2025 at 10:01 AM
Gair y dydd: DIHAREB geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sef dywediad yn datgan doethineb mewn modd cryno a chofiadwy.

Roedd bri mawr ar gasglu diarhebion yn oes y Dadeni: dyma ddalen o’r llyfr “Diarhebion Cymraeg”, a gyhoeddodd William Salesbury tua 1575.

Beth yw eich hoff ddihareb chi?
November 6, 2025 at 10:25 AM
Gair y dydd: ufelyddiaeth, hen air am ‘dân gwyllt’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html....
November 5, 2025 at 1:41 PM
Gair y Dydd: dyddiadurwr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Ar y dyddiad hwn yn 1691 y ganwyd William Bulkeley o’r Brynddu, Llanfechell, Ynys Môn. Gellir gweld ei ddyddiaduron (1734-1760), sy’n llawn gwybodaeth am fywyd ac agweddau’r cyfnod, ar lein bulkeleydiaries.bangor.ac.uk.
November 4, 2025 at 1:05 PM
Gair y dydd: tachwedd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'n fis Tachwedd, y mis du, ond a wyddoch am ystyron eraill y gair, megis 'lladdfa', 'diweddglo', 'drewdod', &c? Cymerwch olwg yn y Geiriadur.
November 3, 2025 at 12:37 PM
Gair y Dydd: cyhyraeth geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyma air arall am ysgerbwd, drychiolaeth ac ysbryd, ac am angladd neu gladdedigaeth lledrithiol (toulu). Gobeithio na chroeswch ei lwybr heno, ar noson Calan Gaeaf, ac na chlywch ei gri arswydus yn y nos, a ystyrid gynt yn rhagarwydd marwolaeth.
October 31, 2025 at 9:58 AM
Gair y Dydd ofer garu www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... trilliw, dauwynebog, caru'n ofer, Viola tricolor; y trilliw gwyllt, Viola arvensis.
October 30, 2025 at 9:46 AM
Gair y dydd: DYFALBARHAD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., sef y dygnwch sydd yn ambell un i barhau neu i ddal ati gyda rhyw orchwyl, pan fo'r rhan fwyaf o'u cwmpas wedi rhoi'r gorau iddi.
October 29, 2025 at 8:23 AM
Gair y Dydd: ceiliog coed geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – enw llai cyfarwydd ar geiliog ffesant. Ceir iâr goed hefyd am ffesant fenyw ond mae’r gair ffesant ei hun geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., rywfaint yn hŷn na’r ddau ac yn mynd yn ôl i’r bymthegfed ganrif.
October 28, 2025 at 1:54 PM
Gair y dydd: traffig geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'n hanner tymor a llawer ohonoch yn mynd ar wyliau neu am drip efallai? Gobeithio na chewch eich dal mewn tagfa draffig!
October 27, 2025 at 1:05 PM
Gair y dydd: brensiach geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Brensiach annwyl! Brensiach y brain! Brensiach y bratiau! Dyma ebychiad sy'n mynegi syndod, yn debyg i 'mawredd'. Cyfaddasiad neu leddfiad ydyw ar lwon megis 'Brenin Annwyl' neu 'Brenin Mawr'.
Pa ebychiadau eraill ydych chi'n eu defnyddio?
October 24, 2025 at 10:33 AM
Gair y Dydd gwenithfaen www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Carreg galed, raeanol a chrisialaidd, ithfaen, gronynfaen, granet.

Gan Alan Mattingly, parth cyhoeddus commons.wikimedia.org/wiki/File:Pi...
October 23, 2025 at 9:00 AM
Gair y dydd: geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ar ôl i ni newid yr awr yn sgil troi’r clociau’n ôl nos Sadwrn, bydd hi’n NOSI yn gynt bob dydd nes cyrraedd diwrnod byrraf y flwyddyn, tua 21 Rhagfyr.
Un cysur fydd yr awr ychwanegol a gawn yn y gwely fore Sul nesaf!
October 22, 2025 at 9:18 AM
Gair y Dydd: rhamant geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... – dyna sut y disgrifiwyd Madam Wen, gan W. D. Owen, pan gyhoeddwyd hi fel nofel yn 1925. Ganwyd yr awdur ar y dyddiad hwn yn 1874. (Llun: LlGC)
October 21, 2025 at 12:51 PM
Gair y dydd: GWLEDD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Diolch o galon i'r Athro Mererid Hopwood, R. Arwel Jones, ac Andrew Hawke am ddarparu gwledd ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Cyfeillion GPC fore Sadwrn. Yng ngeiriau'r diffiniad ffigurol, profwyd 'hyfrydwch neu fwynhad digymysg ... wrth wrando'.
October 20, 2025 at 9:37 AM
Gair y Dydd: CYFARFOD geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dyma ferf sy'n golygu 'dod ynghyd a dod wyneb yn wyneb neu gyferbyn â’i gilydd'. Fel enw, gall olygu 'dyfodiad ynghyd' a 'chynulliad o bobl wedi ymgasglu i ryw ddiben arbennig'.
Yfory, cynhelir cyfarfod blynyddol Cyfeillion y Geiriadur.
October 17, 2025 at 8:43 AM
Gair y Dydd gwasgod www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Dilledyn dilewys a botymau iddo a wisgir dan y siaced.

Gan NASA, parth cyhoeddus, commons.wikimedia.org/wiki/File:Eu...
October 16, 2025 at 11:13 AM
Gair y dydd: argae ‘gwrthglawdd a godir ar draws afon, &c., i ffurfio cronfa ddŵr neu i atal llifogydd’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html....
October 15, 2025 at 10:42 AM
Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd! Cysylltwch â cefnogi@geiriadur.ac.uk os hoffech fwy o wybodaeth #CyfeillionGPC
October 14, 2025 at 1:22 PM
Gair y dydd: llygoden Ffrengig geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Tybed a oedd y lygoden fentrus yn gobeithio clywed ychydig o Ffrangeg ar y cae neithiwr gan rai o'r Belgiaid? Llygoden ffyrnig byswn i'n ei galw - beth yw eich enw chi?
October 14, 2025 at 11:47 AM
Gair y dydd: galfanu geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Daw'r ferf o enw Luigi Galfani, meddyg, ffisegydd, biolegydd ac athronydd Eidalaidd a ddarganfu bod sbarc drydanol yn peri symudiad mewn cyhyrau coesau brogaed marw. Gwelir cofeb iddo mewn piazza sy'n dwyn ei enw yn ei ddinas gartref, Bologna.
October 13, 2025 at 10:27 AM